Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

PULPUD. CYMRU. Rhif 134.] CHWEFROR,li898. [Cyfrol XII. Iaith y Mynyddoedd. Gan y Parch. D. ADAMS, B.A., (Hawen), Le'rpwl. -----o----- " Dyrchafaf fy llygaid i'r mynyddoedd, o'r lle y daw fy nghymorth. Fy nghym- orth a ddaw oddiwrth yr Arglwydd." Salm cxxi. 1, 2« jJj^ra^-A-E y rhan flaenaf o'n testyn, yn ddiau, yn ymgyn- ~ ~ "* Yë yn fynych i feddwl llawer trefwr llwyd ei rudd a phrudd ei drem, a'i galon yn dyheu am ei wyliau haf. Mewn dychymyg gwel ei hun yn gadael llwch a gwres a thawch afiach ystrydoedd y ddinas fawr, a gwel a llygad ei feddwl fynyddoedd Cymru, Ysgot- land, neu Switzerland, a sibryda ei awyddfryd yn ddistaw eiriau ein testyn—" Dyrchafaf fy'llygaid«'r mynyddoedd, o'r lle y daw fy nghymorth." Dyna yr afonig bron cael ei lleibio yn sych gan wres yr haf! Nid oes ynddi prin ddigon i wlychu pigìyr adar i'w parotoi i ganu ar y llwyn gerllaw. Gofidia nad oes ganddi ddigon i dori syched y gwartheg sydd yn pori ar y ddol sydd yn rhuddgoch gan y sychder. Hawdd dychmygu fod yr afon hithau yn ei hiaith yn dweyd—" Dyrchafaf fy llygaid i'r mynyddoedd." Gallant hwy gydio gafael yng ngodreuon y cymylau a'u rhwygo nes y disgyna eu cynwysiad. Gallant hwy sisial fy nghwyn yng nghlust y cwra- wl nes y tywállta ddagrau edifeirwch am ei hir esgeulusdra o'r meusydd a'r dolydd islaw iddo. Pan y mae y llwynog yn cael ei hela gan fytheuaid gwancus, cwyd yntau ei lygaid yn hiraethus tua'r bryniau, a dywed ei gyf- eiriad—Mi flfoaf i'r mynyddoedd ; mae yno ffau ddiogel i'm croes-