Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

PULPUD*CYMRU: Rhif 149.] MAI, 1899. [CyfrolXIII. EhangiTr Galon a Chadw'r Gorchym>nion. Gan y Parch. T. LLOYD JONES, B.A., B.D., Pencader. " Ffordd dy orchymynion a redaf, pan ehangech fy nghalon." Salm cxix. 32. MAE yma gryn lawer o gelfyddyd yn ganfydd- adwy yn nghyfansoddiad y Salm hon. Y mae wedi ei rhanu i ddwy ar hugain o ranau, pob rhan yn gyfansoddedig o wyth o adnodau; a'r hyn sydd yn nodedig yw, fod pob adnod yn unrhyw un o'r adranau hyn yn dechreu yn yr iaith wreiddiol gyda'r un llythyren. Dechreua pob adnod o'r wyth adnod gyntaf gyda'r llythyren Aleph, pob adnod yn yr ail wyth adnod, gyda'r llythyren Beth, ac felly yn y blaen hyd ddiwedd y wyddor Hebraeg. Ymddengys mai nid hon yw'r unig engraifft yn yr Hen Desta- ment o'r math hwn o gyfansoddiad. Y mae yma Salmau eraill wedi eu cyfansoddi ar yr un egwyddor, ac y mae Galarnad Jere- miah yn engraifTt o'r un peth. Fodd bynag, nid er mwyn dangos cywreinrwydd celfyddydol y cyfansoddodd y Salmydd y gan hon. Yr oedd amcan uwch mewn golwg, sef dangos ei berthynas a deddf Duw a'i deimladau tuag ati. Yn y Salm, cyfeirir ganddo at gyfraith yr Arglwydd yn mron yn mhob adnod, ond y mae amrywiaeth mawr yn yr enwau roddir arni. Mewn un adnod, gelwir hi yn " dystiolaethau," mewn adnod arall yn " ffyrdd," ac yn yr un nesaf wedyn yn " farnedigaethau " neu " orchymynion."