Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

&TJt&Wm* eTMSü, i64] AWST, 1900. [CXf. xiv Uyfryr Ysgol Sabbothol. •Gan y Diweddar Barch EDWARD MORGAN, Dyffryn. ■" A hwy a ddarllenasant yn eglur yn y llyfr, yn nghyfraith Duw ; gan osod allan y synwyr, fel y deallent wrth ddarllen. A Nehemiah, efe yw y Tirsatha, ac Ezra yr ofFeiriad a'r ysgrif enydd, a'r Lefiaid y rhai oedd yn dysgu y bobl. a ddywedasant wrth yr holl bobl, Y mae heddyw yn sanctaidd i'r Argîwydd eich Duw ; naalerwch ac na wylwch: canys yr holl bobl oedd yn wylo, pan glywsant eiriau y gyfraith."— Nehemiah viii. 8,9. ,ATGUDDIADydywCrefydd i ddyn. Am hyny, " lle nad oes gweledigaeth, methu a wna y bobl,'' yn ddoethion fel annoethion. Nid awn yn awr i ymholi beth a allasai dyn mewn ystád berfíaith ei wneyd heb Ddatguddiad, nac ychwaith pa beth ydyw terfynau cyfrifoldeb y cenhedloedd hyny sydd yn amddifad o'r Dadguddiad: cwestiynau anorphen a fyddai y rhai hyn. Ond y mae hyn yn fíaith, i'r Arglwydd ddadguddio ei hun a'i ewyllys i ddyn pan ydoedd mewn ystâd berffaith. Er fod " tragwyddol allu a Duwdod" yn amlygedig mewn natur, a bod y Gweithiwr mawr yn dyfod i'r golwg yn ei waith, eto, nid gadael i ddyn geisio sillebu ei enw, a chael allan drwy ymresymu beth ydoedd ei ddyledswydd tuag at eiGreawdwr, a wnaeth yr Arglwydd : ond fe ddatguddiodd ei hun iddo yn Dduw personol, gan hysbysu ei ewyllys iddo. Dangosodd Ef y pryd hwnw i ddyn " beth oedd dda, a pha beth a geisiai -yr Ar- jjlwydd ganddo." Ufudd-dod i ewyllys Duw, fel yr oedd hi yn amlygedig mewn dadguddiad Dwyfol, ydoedd crefydd i ddyn y pryd hwnw, a hyny ydyw hi eto. Y mae y Dadguddiad hwn genym ni mewn Llyfr, am yr hwn y gellir dywedyd, Dyma fedd- ■wl Duw, a dyma Lyfr Crefydd. Rhan o'r Llyfr hwn yr oedd Ezra yn ei ddarlltn ar yr amgylchiad y cyfeiria y testyn ato—