Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

^tiw&m 168.] RHAGFYR, 1900. [Cyf xiv. "Ha fab, coffa." Gan y Parch. WILLIAM THOMAS, Llanrwst. " Ac Abraham a ddywedodd, Ha fab, coffa i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fy wyd, ac elly Lazarus ei adfyd : ac yn awr y diddenir ef, ac y poenir dithau." Luc xvi. 25. CHYDIG iawn ddywedodd Iesu Grist am y byd ysbrydol, ei wynfyd na'i wae. Fe allai fod y ddameg hon yn codi cymaint ar y llen a dim lefarwyd gan- ddo. Y mae y frawddeg hon yn arbenig yn taflu goleuni mawr ar y sefyllfa hono ; sefyllfa ydyw ac y bydd y cof yn angerddoli ei gwynfyd neu ei gwae dros byth. Gaîiu yn perthyn i'r meddwl ydyw y cof —gallu sydd yn meddiant pob aeiod o'r gynulleidfa hon. Y mae dwy swydd yn perthyn iddo. Un ydyw cadw neu drysori yr hyn, a roddir ynddo: y lla-11 ydyw cyfleu gerbron y meddwl y pethau a drysorwyd pa bryd bynag y bydd y meddwl yn galw am danynt ^" mae y ddwy swydd hyn yn perthyn i'r cof. Y mae ambell i gof yn deby g ystordy neu warehouseyn cynwys llawer ond heb ddim trefn—pobpeth ar draws eu gilydd. Cof arall sydd debyg i gwpbwrdd trefnus, pobpeth yn ei le ac yn hawdd ei gael yn hwylus i wasanaeth. Pa fodd bynag, dyna swyddogaeth y cof, cadw, trysori, a chyfleu ei drysorau gerbron y meddwl pan y byddo angen am danynt. Un nodwedd yn perthyn i'r gallu hwn ydyw ei fod yn ymddangos fel yn dibynu mwy ar y corff na'r un o allu- oedd y meddwl. Pan fyddo y corff yn gwanychu ac yn llesgau, y cof sydd yn teimlo gyntaf. Fel y mae y dyn yn heneiddio cwyna fod ei gof yn pallu. Ni chlywir neb wrth fyned yn hen yn cwyno