Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

♦. Ptilpua Cpmru >. [Rhif 178. HYDREF, 1901. [Cyf. XV. Y Weddi a'r Waredigaeth. Gan y diweddar Barch. G. PARRY, D.D., Carno. ----------0---------- ■"Felly Pedr a gadwyd yn y carchar : eithr gweddi ddyfal a wnaethpwyd gan yr eglwys at Dduw drosto ef." Actau xii, 5. R ydym yn leimlo wrth ddarllen y Beibl fod rhyw ranau o hono yn meddu dyddordeb neillduol, a hyny weithiau am resymau gwa- hanol. Mae llyfr Job, a llyfrau Genesis ac Exodus yn nodedig o ddyddorol, a hyny ar gyfrif eu hynafiaeth mawr. Mae yn wir mai yr un ydyw y natur ddynol yn ei phethau mawrj yn mhob oes. Ond yn yr oesoedd patriarchaidd yr ydym yn gweled y ddynoliaeth yn gweithredu dan amgylch- iadau tra gwahanol i'r eiddom ni. Mae y llyfrau yma yn ein trosglwyddo ni i ryw fyd pell a dyeithr, ac y mae hyny yn rhoi dyddordeb, mterest, neillduol yn yr hanes. Ond y mae llyfr yr Actau yn meddu dyddordeb neillduol iddo ei hunan, ond am resymau gwahanol. Y mae dyddordeb y llyfr hwn yn cyfodi oddiar fod yr amgylchiadau a gofnodir ynddo yn debyg mewn llawer o bethau i'r eiddom ni yn yr oes hon, ac yn y wlad hon yn nglyn a dygiad yn mlaen achos yr Argrwydd Iesu. Mae y llyfr hwn yn ein swyno oblegyd ei agosrwydd, fel y mae y lleill oherwydd eu pellder. Mae yn wir fod yr hanes a adroddir yn y llyfr hwn yn myn'd yn beîl yn ol o ran amser. Ond dyma sydd yn gwneyd yr amgylchiadau a gofnodir ynddo yn ddyddorol, eu bod mor bell yn ol o ran amser, ac ar yr un pryd, mor debyg, yn dwyn cymaint o debygolrwydd i amgylchiadau ag yr ydym