Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GWIR FEDYDDIWR. Cyf. I.] TACHWEDD, 1842. [Rhif. 11. COFIANT Y PARCH. RICHARD HOWELLS, GWEINIDOG YR ETENGYL YN PONTBRENLLWYD, SWYDD FRYCHEINIOG. GAN B. WILLIAMS, MERTHYR. Ganwyd y brawd Richard Howells yn y flwyddyn 1789, tnewn lle o'r euw Wernlas, yn mhlwyf Penderyn. Yr oedd yn nn o wyth o blant. Ëuwau ei rieni oedd Jenkin a Gwenllian Howeils, y rhai oeddent yn cadw tyddyn bychan er magu eu teulu lluosog; ond nid oedd un o honynt, wrth a glywais, yn grefyddol, yr hyn oedd anfanteisiol iawn er i'r plant gael addysg dda mewn egwyddorion nag esiamplau crefyddawl. Oud cafodd y brawd Richard Howells yr anrhydedd a'r pleser mawr o fedyddio ei dad cyn ei faiwolaetli. Níd oedd dim yn neillduol yn dynodi dyddiau ieuengctyd Richard Howel's, ar a ddeallwyf, ond fel plant ereill yn gytíredin; ond ei fod o dymher arafaidd ac esmwyth iawn yn wastadol. Byddai yn anhawdd clywed Richard, os na welid ef, pan yn blentyn, gan ei araf- wch a'i dawelwch. Cafodd ei dueddu yn lled ieuangc i fod yn ddyn crefyddol. Arferai er yn blentyn i feddwl yn barchus am grefydd a chrefyddwyr, ac ymhyfrydai yn fawr fyned gyda dynion crefyddol i dŷ yr Arglwydd; ac yn yr amser iiyny yr oedd gradd mawr o lwyddiant ar achos y Bedyddwyr yn Ynysyfelin, a chafodd amryw ei ychwanegu at yr eglwys trwy fedydd o bob oedran; ac fe effeithiodd y weinidogaeth yn ddwys ar feddwl a chalon Richard, nes nad oedd esmwyth- had iddo ddydd na nos am ei gyflwr colledig. Penderfynodd roddi ei hun yn gyntaf i'r Arglwydd, ac mewn canlyniad i'w bobl, yn ol ei ewyllys, a chafodd ei fedyddio gan y brawd David Davies, yr hynaf,gweiuidog y Ue, ar y 5ed o Feheíìn, 1806, pan yn ddwy ar bumtbeg oed; a pharhaodd i ymlynu yn ddiysgog yn ei broffes hyd eì fedd. Fel crefyddwr, yr oedd yn ddyn hynod o doddedig yn Cye. I. wastadol o dan y gair ac yn y moddion, ac nid swn heb syiwedd a'i boddlonai; ond ymdrechodd,yn moreuddydd ei gref- ydd, i adnabod gwahaniaeth rhwng y gwerthfawr a'r gwael, ac fel y cyfryw dygai fawr sêl dros Arglwydd y Iluoedd, a thros grefydd, yn gyson â llyfr Duw mewo athrawiaeth, ordinhadan, ac yinar- feriad. Yr oedd Richard Howells yn mhell o fod yn rhagfarnllyd o gyflwr crefyddwyr o enwadau ereill; ond gwedd- iai lawer drostynt am iddynt gael eu dwyn allan o faglau'r diafol; ac ym- ddiddanai â Uawer o honynt yn bwyllog a sobr yn aml am y dallineb oedd wedi gordoi eu calonau trwy draddodiadau Ilygredig y tadau, yn neillduol ben Socin- iaid Penderyn ac Aberdare; a chafodd yr anrhydedd o fod yn offerynol i ddych- welyd rhai o honynt hwy a'u hiliogaeth i'r ffydd Gristnógol, a'u bedyddio ar broffes o'r ffydd hòno. Yr oedd y brawd Richard Howells wedi llafurio o dan lawer o anfanteision trwy ei fywyd o ddiffyg dysgeidiaeth foreuol; ac o her- wydd hyu yr achwynai yn aml, a dy- wedai, " Y fath fantais y mae dynion ieuaingc yu ei chael yr oes hon, trwy gyf- rwng ein hathrofeydd, rhagor nà ges i." O golled! O golled! yw bod yn ymddifad o ddysgeidiaeth mcwn ieuengctyd. Yr oedd amgylchiadau rhieni Richard How- ells, pan oedd mewn sefyllfa i dderbyn dysgeidiaeth, wedi myned yn hynol isel yn y byd; carcharwyd ei dad gan yr echwynwr o herwydd ei dlodi yn methu taiu ei ffordd, ond trwy lafur ac ymdrech diflìno Richard a brawd arall iddo, rhydd- hawyd eu tad ganddynt o'r carchar, talwyd y ddyled, magwyd y plant îen- engaf ganddynt, a darfit iddyut gynnal eu'tad u'u mham yn ddiebian ira tuont 2 R