Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif 24. RHAGFYR, 189«. Cyf. II. CRIST YN EGWYDDOR BYWYD Y CRISTOON. GAN Y PARCH. T. C. EDWARD8, D.D., BALA. " Canys by w i mi yw Crist, a marw sydd elw," Phil. i. 21. EIRIAU yr Apostol Paul ydyw y rhai hyn pan yn y earchar yn Rhufain, heb wybod y diwrnod y syrthiai yn ysglyfaeth i'r cleddyf, fel merthyr dros Grist. Nid oedd marw i gyfnewid dim ar nodweddion pwysicaf ei fywyd. Anhawsder yr Apostol oedd penderfynu pa un ai cael marw a bod gyda Christ, neu gael byw i'w wasanaethu ar y ddaear oedd oreu iddo. EfFeithiai marw iddo i gael bod gyda Christ, ac estyn bywyd iddo ar y ddaear oedd byw i Grist. Mae ein cyíìeithiad Cymraeg ni wedi arwain i ychydig o gamesboniad cyffredin o'r geiriau hyn. Nid meddwl dweyd y mae yr Apostol yma fod y ffaith fod Iesu Grist yn fyw i eiriol drosto yn gwneud marw yn elw. Y mae hynyna yn wirionedd sylfaenol ein crefydd, ond nid dyna wirionedd y testyn. Mae y cyfieithiad Seisnig, " For to me to live is Christ," yn gosod allan y gwirionedd yn fwy cywjir, ac y mae y syniad gyfleir yn gorwedd yn well ar y testynau cylchynol. Meddai yr Apostol, " I mi i fyw yw Crist." Crist yw ystyr fy mywyd i. Eglura Paul ei hun yn yr Epistol at y Galatiaid, lle y dywed, 'Mi a groeshoeliwyd gyda Christ, eithr byw ydwyf: eto nid myfi, ond Crist sydd yn byw ynof." Nis gallwn obeithio cymeryd gafael yn yr oll o'r gwirionedd yma. Yr ydym yn deall yr Apostol fel yn dweyd mai Crist ydyw egwyddor a nerth ei fywyd. Mae yn dweyd ychwaneg o bosibl, Crist ydyw ffynhonell