Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

^ý^ : . AD PYTHEFNOSOL AT WASANAETH CREFYDD, LLENYDDIAETH, AC ADDY.SG. Cyhoeddedig er Coffadwriaeth am y Parchedig Thomas Charles, o'r Bala. Cytf. I.—Rhif. 2,3 DYJ3D SADWRN, IONAWR 15, 1859. [Pris Un Geiniog. orntttttogstatr. Trem ar yr Ysgolion Sabbothol yn Nghymru....... 17 Yr Adgyfodiad................................ 19 YPulpud Cymreig.,.:......................... 19 "Fydd gen'i ddina ofn byth eich gwel'd chwi eto." .. 21 Llith Hen Gymro.............................. 22 Y Wasg....................................... 24 Hanesyn Effeithiol............................. 25 " A phan welodd Efo y ddinas Efe a wylodd drosti." 2G Merched G wrr ywaidd........................... 27 Hynodion Dynion Enwog....................... 28 JohnJones: y Dyn Hunacol................... 28 Ll wch Aür......'.............................. 30 YrYs>:ol..................................... 30 Y Golygydd at ei Ohebwyr................... Sl TREM AR YR YSGOLION SABBOTHOL YN NGHYMRÜ. Gan fod Gwyliau y Nadolig yn gyfuod neill- duol ar yr Ysgol Sabbothol, trwy íod cymaint o'i chyfarfodydd yn cael eu cynnal arnynt, tyb- iwn ei bod yn adeg fanteisiol i ninau draethu ychydig o'r pethau sydd wedi bod yn ymdröi yn ein. meddwl er's llawer o ddyddiau yn nghylch ei sefyllfa a'i hamgylchiadau. Y mae yn annichon dyweyd maint dyled gwlad i'r cyfansoddiadau a fuont lwyddiannus i'w gwellau, eiderchafu, a'i ehrefyddoli; oblegid nis gellir rhoddi pris ar rinweddau; y mae y daioni moesol lleiaf y'n anfeidrol werthfàwrocach na'r golud mwyaf; ond pa faint bynag ydyw mawredd ac ucheledd addysgiant naoesol a chrefyddol ein gwlad, gallwn edmygu yr Ysgol Sabbothol fel un o'r prif drefniadau a welodd Duw yn dda ei ddefnyddio i'w cynnyrchu. Cyfrol o gymeradwyaeth gogoneddus iddi ydyw moesoldeb a chrefyddoldeb Cymru. ^Diangen- rhaid yw i ni yma dynu dau ddarlun o gyflwr a sefyllfa ein gwlad,—un yn dangos yr hyn ydoedd gan' mlynedd yn ol, a'r ílall yr hyn ydyw yn awr, er dangos rhagoi'iaeth a chynnydd y presennol; y mae y portrëadau hyny wedi eu hystrydebu bellach—yr ydys yn ddigon cyn- efin â hwynt. Gorchwyl boddus i'r chwilfrydgar fyddai edrych i wahanol ranau a chysylltiadau y trefh- iant hwn, sydd wedi bod mor fuddugol yn ei amcan-^-yn mha le y mae elienau ei lwyddiant —yn mha bethau y mae ei fywyd a'i rym. Nid yw Duw yn gweled yn dda gyfyngu ei fen- dithion i ryw gyfansoddiadau pennodol; eithr yn mha le bynag, ac yn mha ffurf bynag y gwelir dyn neu ddynion yn ymdrechu yn ddi- dwyll at welläu y byd—" Wele yr ydwyf fi gyda chwi bob amser." Yn eu cysylltiad â dynion y mae ffurfiau a chyfansoddiadau yn dyfod yn bethau pwysig. Y cymhwysderau penaf tuagat wneyd cyfan- soddiad effeithiol, dybygem, yw—adnabydd- iaeth ddofn a helaeth o'r natur ddynol, a gwy- bodaeth ëang a manwl o sefyllfa ac aiighenion yr oes. Caethiwed a fu angeu mwyafrif cyfun- j di-aethau yr oesoedd ; a dylai hyny fbd yn wers i ninau i ymocîicl rhagddo : " anadl einioes " pob trefniant ydyw rhyddid. Os rhoir He i bob aelod, o'r athraw duwinyddol, neu y pregethwr cymanfáol, hyd at y rhai a gadwant y pyrth yn nhý ein Duw, i ymdroi mewn perffaith ryddid; ac os bydd y trefniadau y fath ag a estyna ac a amlhâ gyfleusderau i bob-dyn i wneyd y daioni a all, yna, cyn belled ag y mae a wnelo cyfun- drefn â hjny", y mae llwyddiant crefydd yn sicr. Yr oedd y cymhwysderau uchod yn Mr. Charles yn helaeth ; a bu efe yn ddoeth i wneyd trefn- ìadau yr Ysgol Sabbothol i gyfateb yà ei holl ranau i amgylchiadau yr oes, ac i hyny yr ydym yn priodoli ílwyddiant'y trefniant fel y cyfryw. Tra y mae amcan yr Ysgol Salmothol yn ddwyfol a gogoneddus, heb fod yn ddim llai pwysig nag efengyleiddio'r byd, y mae ei chym- hwysder a'i gallu'at y gorchwyl yn annhraethol fawr;—nid oes un 'hinsawdd foesol, pa mor lygredig bynag, a all lesteirio ei bywyd a'i chynnydd; y mae ei meddyginaethau mor llu- osog ag ydyw anhwylderau cymdeithas; ym- gyrhaedda at bob dosbarth, a dwg ei gorchwyl- iaethau yn mlaen yn mhob sefyllfà ae o dan bob amgylchiad; y mae ynddi foddion i ddysgu yì« anwybodus a sobri'r 'diystyr, ac ni âd y nâill na'r llall nes eu gwneyd yn ddoeth i iachawdwr- iaeth, a'u dysgu i fyw yn sobr, yn gyfiawn, ac yn dduwiol yn y byd sydd yr awr hon^-y mae yn "fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder." Yr oedd dydd ei sefydliad yn ddydd pwysig yn hanes ein gwlad. *^Yr oedd ei gwaith yn fawr, a'r anhawsderau i'w gyflawni yn lluosog; o'i blaen vr oeM cenedl yn ymdrybaeddu mewn