Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIRWEST7DD, Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dirwest.' liliil. 3.2 HTDllEP, 1§36. [^ris lc« Ymuno a'r Gymdeithas Ddirwestol yn Ddyledswydd Grefyddol. Y hae llüaws o grefyddwyr, yn mhlith pob enwad o Gristionogion, yn meddwl mai peth hollol afreidiol iddynt hwy y w dodi eu henwau wrth yr ymrwymiad dirwestol, gan na fyddant un amser yn troseddu rheolau cymedrolder, trwy yfed i ormodedd: ond, ar yr un pryd, y maent yn ystyried mai y peth goreu o bobpeth i'r meddwyn a fyddai ymuno â'r Gymdeithas Ddirwestol, gan nas gall efe beidio a chymeryd gormod, os unwaith yr archwaetha y d'iodydd raeddwol. Y mae yn amlwg bod yr wrthddadl hon yn seiliedig ar y dybiaeth, mai niewn cy- meryd gormod o'r d'iodydd meddwol yn unig y mae'r niwed, ac nad oes dim drwg mewn atfer ychydig yn gymedrol o honynt. Pell iawn ydym oddiwrth olygu y farn hon yn un gywir; ond pe caniatëid fod y d'iodydd hyn yn lled ddiniwed i'r rhai a'u harferant yn gymedrol, er hyny yr ydym yn maentumio yn ddibetrus, MAl DYLED8WYDD POB CRISTION YW LLWYB YMWRTHOD A'R HOL.L. DDIODYDD MEDDWOL,. Anturiwn geiso dangos hyn trwy amrywiol o resymau: gosodwn rai o honynt ger bron y darllenydd yn bresennol, ac, os byddwn byw, cawn ymhelaethu ar y mater ryw bryd etto. 1. Nis gellir gwadu nad ydyw meddwdod wedi gwneuthur rhwygiadau mwy ofnadwy a gofidus yn eglwys Dduw, nâg a wnaethpwyd gan un pechod arall: ac y mae y cwympiadau mynych a gwarthus a gafodd cannoedd o bro- ífeswyr, 'ie, llawer àc a fuant yn uchel eu lle ac yn fawr eu cymeriad yn eglwys Dduw; yn nghyd â'r dirmyg, y gwawd, a'r cabl a ddyg- odd y cyfryw gwympiadau ar grefydd Crist yn y byd;—y mae y pethau hyn yn dangos y dylai pob un àc sydd yn caru Crist a'i achos, güio yn mhell oddiwrth y d'iodydd hyny àc a barodd y fath aílwyddiant i'r efengyl. A chan fod llawer o'r rhai a olygid yn ddynion duwiol, ac yn rhai defnyddiol hefyd yn eglwys Dduw, wedi cael eu codymu gan ddiodydd meddwol, onid ydyw, hyny yn floedd uchel ar bob pro- ffeswr i gilio yn mhell oddiwrth yr hyn a fu yn achlysur o'r fath aflwydd? Ai oddiar eu caredigrwydd at Grist y mae neb o'i ddysgyblion yn gwrthod y moddion mwyaf effeithiol, er rhagflaenu gofidiau ei eglwys, ac aflwyddiant ei deyrnas yn y byd ? Pa sicrwydd sydd gan y duwiolaf, os ymarfera ond âg ychydig o'r d'iodydd hyn, na chaiflf yntau hefyd ei orchfygu ganddynt ? Ai cryfach, neu fwy ei râs, ydy w efe na'r rhai a gawsant eu codymu ganddynt? Edryched ar Noah, pregethwr cyfiawnder, ac ar Lot gyfiawn, a haered, os baidd, ei fod yn rhagori arnynt hwy mewn grâs a duwioldeb. Pen y ffordd i fcddwdod yw yfed cymedrol, ac os dechreua dyn ei theithio, nid oes dim sicr- wydd nad aiff mor bell âg yr aeth neb erioed o'i flaen. Tebygid mai nid ffordd ddiogel yw yr hon y drylliwyd esgyrn ac y collwyd bywyd cynifer wrth ei thrafaelu. Ar lwybr ei ddy- ledswydd yn unig y gall y cristion hyderu am gynnaliaeth grâs Duw: ac y mae gwir ffydd yn tueddu dyn i ymarfer â moddion; ond y mae dyn dan lywodraeth rhyfyg yn dysgwyl am gael y dyben, er esgeuluso y moddion i'w gyrhaeddyd. Y mae yr ystyriaethau hyn yn dangos, mai dyledswydd crefyddwyr yw ym- ddidoli oddiwrth y meddwon, ac ymddiogelu rhag meddwdod, trwy hollol ymwrthodiad â'r d'iodydd àc sydd yn meddwi dynion; a d'iau y dylent ddangos eu hochr i'r byd, trwy arwyddo yr ymrwymiad dirwestol. 2. Y mae rhwysg mawr a chyffredinol y pechod atgas o annghymedroldeb, yn mhlith pob graddau o drigolion ein gwlad, yn nghyd â'r anneirif ddrygau a thrueni a achosir trwy hyny, yn galw yn uchel ar bob cristion i arfer pob egni galluedig iddo, er attal y pla dinystr- iol hwn. Y mae " ymdrech yn erbyn pechod" mor naturiol i enaid gwir rasol, âg ydyw i'r wreichionen ehedeg i fynu; ac nid oes dim arall, os bydd hyn yn ddiffygiol, a brawf neb yn dduwiol. Y mae gweithrediad cyntaf grâs yn y galon, i'w ganfod mewn gwrthwynebu llygredd: ac nid rhyw wrthwynebiad gwan- aidd a d'iegni ydyw ; ond ymdrech: a'r hyn a ddcngys wirionedd yr ymdrech hwn yw, ei fod yn taro yn mlaenaf yn erbyn y drygau penaf a mwyaf amlwg, yn y person ei hun ac ereill. A chan fod meddwdod yn un o brif bechodau yr oes, onid rhesymol yw dysgwyl i'r cristion ddangos pob parodrwydd i ddyfod allan yn ei