Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

IfîffilŴ " Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dirwest.' Riiîr. iä*] MEHLEFIJSr, 1837. C^ris lc. ARDYSTIAD CYMMANFA DDIRPRWYOL DIRWEST GWYNEDD, Yr hon a gynnaliwyd yn Ninbych, Chwefror 8 a'r 9, 1837« " Yr ydwyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr ymattal oddiwrth yfed pob math 0 Wlybyroedd Meddwaẅl fel diod; i beidio a'u rhoddi na'u cynnyg feüy i neb arall \ ac yn mhob modd i wrthsefyll pob rhyw achosîon ac achlysuron o Annghymedroldeb." ARAETH A DRADDODWYD GAH Y PARCHEDIG CHRISTMAS EVANS. Ymddiddan rhwng Noa, Sem, a Lot, yn nghylch Llwyr-ymattaliad. Noa—Y mae yn ddrwg iawn genyf i mi feddwi. Yr oedd llun tost arnaf, onid oedd, yn nghanol y babell ? Y tro cyntaf oedd, fy mab, a'r tro diweddaf hefyd : mi a droaf yn ddirwestwr. Mae yr awdwr duwiol hwnw, Mathew Henry, wedi cam-adrodd pethau yn fy achos. Dywedodd ef fy mod wedi byw yn sobr yn nghanol byd o feddwon, pan na welais Alcohol, na dyn meddw, na chwpaned o win, cyn y dylif. Myfi a blenais y win- wydden gyntaf, i gael sypiau grawn i wneyd gwin. Yr oeddwn i wedi yfed gwin gwasgedig o'r grawnwin heb iddo efFeithio dim arnaf; a chenyf aralder o hono, mi a feddyliais wasgu y sudd i gostrelau, i'w gadw dros y gauaf. Aethum i geisio peth o hono o un gostrel a adawyd heb gorcyn ynddi, ac yr oedd wedi ymweithio o hono ei hun, heb i neb roi eples ynddo. Myfì a'i hyfais ef, heb wybod fod alcohol nerthol wedi dyfod iddo yn y gostrel, ac efe a redodd i fynu i'm pen, ac a'm hysbeil- iodd o'm synwyrau, a mi heb adnabod mai ûicìe Turpin oedd y filain. Ond bellach, fy mlant, mi a ofalaf am gau a chloi fy nrysau yn erbyn yr ysbeiliwr. Sem.—Wele, fy nhad, yr wyf yn cael goleuni ar yr amgylchiad a'ch gwnaeth yn feddw. Tebygaf fi mai ei dwyllo hefyd gan Alcohol a gafodd Lot gyfiawn. Mae llawer o feddwon wedi rhoddi eich esamplau chwi yn gochl dros eu meddwdod bwriadol hwy. Nid oes air o son am feddwdod Lot yn Sodom, cyn ei llosgi, na byth wedi hyny ond dwy waith, trwy dwyll ei ddwy ferch i gael eu hamcan yn mlaen. Tebygol ei fod ef yn arfer yfed gwin yn ei gyflwr syml cyntaf cyn eplesu, neu trwy ei wneyd yn ddigon gwan â dwfr neu laeth; (Can. v. 1—3. Diar. ix.) felly boddent ychydig o Alcohol gwin Canaan; canys nid Teigr o hilgerdd °edd arferedig, fel ein di'odydd meddwol ni. Tebygol fod y merched wedi ceisio gwin o ddinas Soar, (canys toae'n debyg na ddaethant â dim gydâ hwy o Sodom,— da oedd iddynt gael eu bywyd,) yr hwn oedd yn win cryfach nag oedd ef wedi aríèryd. Yn hyny cafodd ei dwyllo. Efe a gysgodd yn swrth yn ei bröfedigaeth, ac a weithredodd bechod atgas a ffiaidd, a'r cwbl heb wybod ei fod yn yfed i feddwdod, nag yn euog o'r llosgiad adgasaf yn ei feddwdod. Dyma yT esboniad mwyaf cyson a'r cymeriad uchel a rydd gair Duw i'r ddau ddyn,—Cyfiawn ger bron Duw. Pechod mewn anwybodaeth oedd i'r ddau. Ac nid ydym yn canfod sen yn cael ei rhoddi iddynt, fel am bechodau gwirfoddol a bwriadol y meddwon ar ein díodydd ni. Y gwirf meddwol ydyw y peth a hoffant hwy; ond Noa a. Lot wedi agor eu tỳ i Turpin heb wybod mai efe oedd yn cael lletty, er iddynt hwy eill dau feddwì, nid oedd- ynt feddwon yn erbyn pa rai y cauir teyrnas nefoedd. Mae y rhai hyny yn meddwi yn barâus, ac yn fwriadol, Noa__Darfu i mi a Lot i droi yn llwyr-ymwrthod- wyr mòr gynted y daethom i wybodaeth am effeithiau meddwol yfed llawer o win Canaan. Mae y géiriau cymedroldeb a dirwest, yn y chwech Ueyr arferirhwynt yn y Testament Newydd, yn y Groeg, y rhai a gyf- iethir weithiau yn ymgadw hyd oni phriodir,—ac oddi wrth bob pwys a rhwystr mewn dillad, a bwyd, a diod, i ennill y prize, neu y gamp—cyfieithir yn ddirwesi, sef ymattal oddi wrth ymborth am bedwar diwrnod ar ddeg yn llong Paul,—Uwyr-ymattal oddiwrth odineb yn Ffelix. Llwyr-ymattaliad mae y geiriau yn arwyddo pan gyfieithir hwy yn gymedroldeb, oblegyd yr un yw y gair gwreiddiol am ddirwest a chymedroldeb. Mae yn arwyddo ympryd, cythlwng, sef llwyr-yrnattal oddiwrth bethau annghyfreithlon dros byth, ac oddiwrth y gor- modedd, yr hyn a waherddir wrth yfed gwin Canaan. Mae y gair yn dal ei ystyr o hyd, sef dirwest, neu ym- attal yn Uwyr oddiwrth y gormodedd, yr hwn sydd yn meddwi. Cymedroldeb, neu dirwest, yn arwyddo llwyr-ymattaliad;—i'r Nazareaid, oddiwrth win, yn mhob dull o hono, dros ysbaid eu hadduned,—ac i'r offeiriaid a'r barnwyr, i lwyr-ymattal oddiwrth win tra yn gweini eu swyddau. Temperance Society y gelwir dirwestiaeth yn Saesoneg, o herwydd nad oes dau air yn eu hiaith hwy am y gair gwreiddiol, fel yn ein hiaith ni, sef cymedroldeb a dìrwest, Mae y ddau áir mor weddus i'r ddwy gymdeithas, yn ol eu rheolau. Mae