Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

■WIDID» ' Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dirwest.' IClBÌI. 1».] V1€HWEDD, 183», C^ris lc, ARDYSTIAD CYMANFA DDIRPRWYOL DIRWEST GWYNEDD: 1 Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrthod â Gwlybwr Meddwol; i beidio na rhoddî na chyrmyg y cyfryw i neb arall; ao yn mhob modd i wrthsefyll yr achosion a'r achlysnron o Annghymedroldeb.,, T FASNACH PEDDWOL. HYSBYSIAD. Yn y Gymanfa Ddirwestol a gynnaliwyd yn nhref Caernarfon, yn mis Awst diweddaf, barnwyd ei bod yn ddyledswydd arnotn, fel dirwestwyr, i ymgais at oleuo y wlad am y Fasnach mewn diodydd meddwol; ac »V dyben hwnw, penderfynwyd yno ar i bedwar o frodyr parchus, o wahanol enwadau crefyddol, ysgrifenu eu golygiadau ar y mater, a danfon eu cyfansoddiadau i swyddfa y Dirwestydd. Pe buasai y pedwar brawd a bennodwyd wedi gwneyd yn 61 cais y Gymanfa, diau y buasai y traethawd canlynol yn llawer mwy rhagorol nâg yw ; ond gan fod dau o honynt wedi bod yn ffyddlon yn hyn, tybiwyd mai gwell ydoedd ei gyhoeddi yn awr, nâg oedi dim yn mhellach: a gobeithir y bydd iV sylw- adau canlynol gael eu hystyried yn ddwys a diduedd gan bob darllenydd, yn enwedigol gan y sawl a ddichon fod yn dwyn rhyw berthynas a'rfasnach a nodir. Gan y caiff yr hyn a ganlyn lydaeniad helaethach trwy gyfrwng y Dirwestydd nag mewn unrhyw ffurf arall, barnwyd mai gwelt ydoedd ei gyhoddi ynddo ; a hyderir y bydd % dderbynwyr rh'éolaidd y Dirwestydd oddefy cyfnewidiad hwn yn ei gynwysiad am unwaith. WILLIAM WILLIAMS. HENRY REES. Lẁerpool, Hydref 18, 1837. Y FASNACH FEDDWOL. Ein barn gydwybodol a diffuant ni, y Dirwestwyr, am Dafamiaeth, neu y fasnach o gadw tai cyhoeddus, yw, 1—Ei bod hi yn fasnach gyfreithlon, barchus, ac angenrheidiol, ac mor wasanaethgar i gysur cyffredinol dynion âg unrhyw fasnach arall, pan ei dyger yn mlaen yn briodol a dyladwy; ac nid gwrthwynebu tafarniaeth, neu geisio ei diddymu, ydyw ein hamcan gydâg un ran o'n hymdrechiadau dirwestol; ond, yn hytrach, yr holl effaith a ddymunem ni i ddirwestiaeth gael ar y fasnach, ydyw ei diwygiad trwyadl; a thrwy hyny ei gosod ar dir j llawer sicrach o dderbyn bendithion Duw oddi uchod, yn gystal âg o gael cefnogaeth dyngarwyr a christion- ogion yn gyffredinol. Yr ydym ni mor bell oddiwrth fod yn elynion i'r rhai sydd mewn cysylltiad â thafarn- iaeth, ag y dymunem yn bendifaddeu iddynt oll bwyllo, a pheidio a'n cam-ddeaU yn hyn; canys nid oes dim a wnelom ni â'u masnach hwy, ond yn unig ei diwygio oddiwrth yr hyn sydd yn niweidiol i amgylchiadau, i iechyd, ac ifoesau ein cydgenedl. 2—Bod llawer o bethau yn nglŷn â thafarniaeth yn ein hoes ni, nad ydynt yn fasnach mewn un modd, ac na ddylai neb eu galw felly. Dyben cyntefig tafarnau, a'r unig ddyben teilwng, oedd llwyddiant a hwylusder cymdeithasiad, cyfeillach, a masnach, yn mhlith y teulu dynol, a thrwy hyny chwanegu ei ddedwyddwch; ond mor bell ag y mae y cyfryw sefydliadau, yn y dull llygr- edig y cynnelir hwy yn awr, yn dinystiio y dedwyddwch cyffredinol yn hytrach na'i wasanaethu, nis gallant fod amgen na melldith gyffredinol, ac yn eithaf annheilwng o'r enw masnach gyfreithlon. Y mae cadw tafarndai mewn ardal, lle na byddo teithwyr na dyeithriaid i'w dysgwyl, i hudo angenrheidiau gwragedd a phlant, ac i greu diotwyr a meddwon sefydlog, gwerthu gwlybyroedd meddwol ar y Sabboth, i gynnorthwyo halogwyr y dydd neilltuedig, a chadw tý yn agored i feithrin oferedd, segurdod, maswedd, puteindra, lladrad, twyll, llofrudd- iaeth, &c, yn bethau a ddygir yn mlaen yn ddigywilydd dan gwr mantell y fasnach: ond y mae y cyfryw bethau mor bell oddiwrth fod yn fasnach gyfreithlon, â'u bod yn felldithion penaf dynolryw; ac y mae y rhai sydd yn eu cynnal o dan wae gyhoeddedig y Creawdwr, ac yn gyfrifol am efffeithiau eu twyll-fasnach ar gyriFac eneid- iau, iechyd a moesau, y rhái sydd yn de$o â hwy ! 3.—Bod y fasnach hon yn niweidiol gyrfredinol, mor bell ag y mae hi yn feddwol; a bod y rhai sydd yn cyf- ranogi ynddi yn cynnal a meithrin trueni, anfoesoldeb a melldith yn wirfoddol yn y tir; ac y byddant hwy yn gyfrifol i Dduw, Barnwr pawb, am yr holl effeithiau a ddilynant yr hyn a wneir ac a werthir ganddynt i ereill. Ac wrth weled mai diodydd meddwol yw prif offèryn y diafol i gynnal anfoes a Dygredigaeth yr oes, yr ydym