Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ATHRAW I BLENTYN. ' Hyfforddia blentyn yn mhen ei ffordd; a phan heneiddio nid yniedu í hi."—Diar. xxü. 6. CHWEFROR, 1849. 3R«3IM 3LM2SEJI Diau y bydd yn hyfrydwch, nid bychan, gan ganoedd o'n darllenwyr, yn enwedig plant ac Athrawon yr Ysgol Sab- bathol, i gael golwg ar ddarlun y dyn gostyngedig, Uafurus, a dedwydd hwnw, Robert Raikes, o Gaerloyw, a anrhyd- eddwyd gan yr Arglwydd i ddwyn yr Ysgol Sabbathol i fodoliaeth a gweithrediad, er gwneyd i'r anialwch flodeuo fel rhosyn. Dyma fe, ddarllenydd, o dy flaen. Edrych ar ei benpryd hawddgar, lle gweli arwyddion o garedigrwydd, penderfyniad, a dyfal-barhad.