Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ATHRAW I BLENTYN. 'HyfTorddia blentyn yn mhen ei ffordd; a phan heueiddio nid ymedu á hi."—Diar. xxii. G. AWST, 1850. MAEW OT OT &-&mWY®®> Nn> pawb ag sydd vn marw,sydd yn marw yn yr Arglwydd. Mae lle i ofni fod llawer yi) marw yn eu pechodau, yn marw a'u pechodau heb eu maddeu. Buont fyw yn eu pechodau, maent yn marw yn eu pecbodau; gorwedd eu pechodau ar eu hesgyrn yn y pridd; cyfyd eu pechodau gyda hwynt yn yr adgyfodiad; daw eu pecnodau gyda bwynt i'w condemnio yn y farn, a dyoddefant y gosp ddyledus i'w pechodau am dragywyddoldeb! Na ato yr Arglwydd i neb o ddarllenwyr yr Athraw farw fel hyn. " Y drygionus a yrir ymaith yn ei ddrygioni." Nid y meirw sydd yn marw yn eu pechodau a gyhoeddir yn wynfydedig, ond y meirw, y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd. Ünwaitb y gosodwyd i ddynion farw, ac un marw sydd yn wynfydedig, sef marw yn yr Arglwydd. Mae undeb yn bod rhwng y rhai sydd yn marw yn yr Ar- glwydd â'r Arglwydd yn eu bywyd. Maent hwy yn Nghrist, a Christ ynddynt bwythau: maent bwy a!r oll a feddant yn eiddo Crist, a Cbrist a'r oll a fedd yntau yn eiddo iddynt hwythau. Ei achos ef ydyw eu hacbos hwynt, ei bobl ef ydyw eupobl hwynt, ei waith ef ydyw eugwaithhwynt, ei dỳ ef ydyw eu tŷ hwynt, a'i air ef ydyw eu hymborth gwastadol hwynt. G wnawd ef gan Dduw iddynt hwy yn ddoethin eb, yn gyfiawnder, yn santeiddrwydd, ac jrn brynedigaeth; ac y maent hwythau o hono ef yn Nghrist Iesu; felly, y maent yn rhydd oddiwrth y ddamnedigaeth yn eu bywyd, ac yn wynfydedig yn eu marw. Nid ydyw angeu yn alluog i ddatod yr undeb sydd rhwng y Cristion a Christ, ond y mae yn was- anaethgar i'w ddwyn i fwynhad cyflawnach o'i gymdeithas nac a gafodd erioed o'r blaen. Nid ydynt y rhai sydd yn Nghrist yn cael dianc rhag marw, mwy nac ereill, ond y mae marw yn elw iddynt, yr hyn nad ydyw i ereill. Maent yn