Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif. 17.—MAI, 1828.—Pris lc. Lìythyr oddiwrth Ddysgybi Ysgol Sabbothol at ei hen Athraw. Fy anwyl a'm caredig Athraw, YMae cofio am eich ymdrech i'm dysgu i ddarllen, a'eb ífyddlondeb yn ty nghynghori, fy ihybudriio a'm ceryddu, yn enyti ynof ryw deimladau gwfesog o barch i chwi, ;i chariad atoch; gobeithio eich bod yn parhau yn ddiwyd gyda'r gwaith. Ond fy annedwyddwch niawr i, a fu treulio y cyfleusderau mwyat, à'r breintiau goreu, heb adnabod eu gwerth, na'u defnyddio yn iawn. Yr ydwyf yn awr yn cyd- nabod fy mai a'm camsyniad, ond yr wyf mewn amgylchiadau nas gallaf eu diwygio; annichonadwy yw troi doe yn ol. Pan yr oeddwn yna gyda chwî yn yr Ysgol Sabbothol, yn myned ac yn dyfod gyda'n gilydd i'r odfeuon, mewn ardaí lawn o freintiau ysbrydol, nid oedd fawr o bethau crefyddol yn cael eu lle dyladwy ar fy meddwl. Ond yn awr mae rhaginniaethwedi fy symndi ardal anghysbell, He nad oes nag Ysgol Sabbothol na dim arall, onií yr annuwioldeb mwyaf. Nid oes genyf yma na chyfaill nag athraw iofalu dim am fy enaid tylawd, ond yr wyf fel y Pelican ei hunan, neu gyw yr Estrys amddifad a diymgeledd, yn nghanol anial- wch erchyll, a phob gelyn am fy nifa. O na bai holl blant yr Ysgolion Sabbothol trwy'r byd yn cydnabod eu breintiau!