Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhip 186.—MAI, 1842. Pris Id. AM DDULL BEDYDD, (Paraäd o'r Rhif. Diweddaf.) G. Gan nad pwy ydynt ddeiliaid addas yr Ordinhad dan sylw, y mae yn amlwg mai y weith- red sydd i'w chytìawni yw Bedyddio. Gan hyny gofÿnaf, bellach, Beth yw Bedyddio? A. Bedyddio sydd naill ai llygriad o'r gair Cymraeg, Badsaddo, neu gymreigiad o'r gair Grywaeg Bapto, yr hwn air yn ei ystyr briodol sydd yn golygu troclii, ac a vveinyddir trwy fod i'r trochwr suddo y trochedìg mewn dwfr, yn enw y Tad,y Mab, a'r Ysbryd Glân. G. Nis gallaf lai nag ameu cywirdeb eich dywediad, oblegyd fe ddywerìir i Nebuchodon- osor gael ei wlychu, (yn ol iaith arall ei fedyddio) â gwlith y nefoedd, ac y mae tebygolrwydd mawr rhwng hyny â thaeneüiad,—gan hyny, oni ellir galw taenelliad, gyda phriodoldeb yn fedydd? A. Naellir; oblegyd dylid deall mai mewn ystyr gymhariaethol y defnyddir y gair bedyddio yn.hanes líebuchodonosor, a'r meddwl yw, éi ibd wedi cael ei wlychu, a'i amwisgo à gwlith y öefoedd, (yr hwn sydd yn helaeth iawn yn y parthau dwyreiniol o'r byd) fel yr ymddanghosai nid wedi ei daeuelln yn rhanol, ond yti hytrach fel pe bnasai wedi ei snddo mewn dwfr.