Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GOLEUAD CYMRU. OFNWCH DDÜW. ANRHYDEDDWCH Y BRENIN. Rhif. cxxvi. EBRILL, 1829. Llyfr vi. BYWGRAFFIAD. HANES BYWYD Mr. JOHN WILLIAMS, O LANERGAIN, Yn Swydd y Fflint, (Parhâd t.d. 68.) Hawdd y gellid (pe byddai hyny yn fuddiol) dwyn tystiol- aethau lawer, o eiddo y dynion cryfaf, mwyaf digyffro eu ty. mherau, ie, o eiddo y dynion caletaf, mwyaf anystyriol a nod- edigmewn annuwioldeb o bawb yn yr ardaloedd, am y modd y byddai yr olwg ar J. W. yn eu brawychu a'u dychrynu hwynt. Mae dynion enwog a wahanol enwadau crefyddoì hefyd wedi tystio yn eglur am y cyfrifiad mawr a wnaent o hono ef: un o bregethwyr y corph o ba un yr oedd efe yu aelod a ddywedodd am dano fel y canlyn : " Bu yn ffyddlawn, fel Moses, yn holl dŷ Dduw megys gwas; cymmerodd arch Duw ar ei ysgwyddau yn foreu, yr hon a gynnaliodd ac a ddygodd efe yn ffyddlawn ac heb ddiffygio nes i angeu dynu ei ysgwyddau ef oddi tani. Fel cyfaill, yr oedd yn gywir a ffydd- lawn, a gallasid dywedyd y peth a fynid wrtho,heb y perygl Ueiaf o ffnel ei gly wed byth gan neb arall. Yn fyr," eb efe, "ni welaiserioed ei fath." Pregethwr enwog o gorph arall a ddywedodd fod J. W. yn rhagori mewn tri pheth ar un dyn a welodd efe yn Nghymru, yn perthynu i un corph o bobl; sef, yn ei dduwioldeb, ei barch gan ddynion, a'i lywodraeth ar ddynion. Rhoddwn etto ychydig o dystiolaethau ei hen gyfaill, y Parch. J. J. o Dreffynon, am dano: " Galwyd et gan un," eb efe, " yn flaenor y blaenoriaid ;" ac fel y cyfryw, ni chafodd neb golled fwy nag a gawsom ni yn Swydd yFflint am ein hen flaenor anwyl; yr oedd ganddo lygad eryr, os byddai rhyw wall, efe a'i canfyddai gyntaf; yr oedd ganddo hyfdra llew, ni thröai yn ol er neb; yr ydoedd hefyd yn meddu ar dosturi mam, cariad tad, a gofal bugail; ie, yr oedd ganddo ryw radd o bob peth i'w addasu i'w swydd. Yr oedd yn un o'r rhai mwyaf diwyd gyda'i alwedigaeth fydol, ond pan íyddai eisiau iddo týned tros y Sir i GymanfaLlangeitho, y Bala, neu Gaemarfon, &c. gadawai y byd yn ol, ac ymaith yr âi i ymofyn cyhoeddiadau. Ÿr oedd heíyd yn hynod o groesawgar o'r pre- gethwyr a ddeuent i'w dŷ ef; a hoffiawn oedd gan leíarwyr fyned i'w dŷ, am ei fod fel Onesimus gynt, yn eu lloni yn fynych. Sylẅ'ai yn fanwl ar yr ysgrythyr hono, ' Cynneliwch y gweiniaid.' Pan fyddai dau bregethwr yn cydymdaith trwy y wlad, os dyg- wyddai un fod yn fwy digalon na'r lla.ll, deuai at hwnw yn sir- iol iawn, adywedaiwrtho, 'Wala, Nedi,'' neu " Jaco bach," &c, a wyt ti yn cael rhy w beth i'w fwyta ganddynt? ond am dano fo," meddai am y lla.ll, "myfi a'i gwarantaf ef y medr ei helpio ei hun; yr oeddwn yn caru dy lwybr yn dweyd tipyn heno ar y gair a'r gair, ac yn sicr fe dâl i ti