Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GOLEUAD CYMRV. OFNWCH DDTJW. ANRHYDEDDWCH Y BRENIN. Rhif. cxxx.] AWST, 1829. [Llyfr VI. BYWGRAFFIAD. COFIANT AM FYWYD A MARWOLAETH Y PARCH. JOHN JONES, Gynt o Edeyrn, Swydd Gaernarfon. Mr. J. Jones oedd fab i Mr. Methusalem Jones, yr hwn oedd cyn prîodi yn hyw yn nhyddyn Dafydd Ddu, yn mhlwyf Llan- dwrog ; ac Ann Jones, merch y Bettws fawr, Llandwrog. Pan oedd John Jones yn hanner blwydd oed, ei rîeni a symudas- ant i Gaemarfon i fy w, ac yno y cafodd efe ei ddwyn i fynu nes oedd yn 17 oed. Cafodd ei ys- gol-ddysg gydag un Thomas Brown. Yr óedd John Jones yn un tra bywiog, ystwyth, a llawn o-asbri am bob campiau, megys cerdded ar ddwylaw, ncidio, dringo, ac wcithiau ymladd hefyd. Clywais ef yn cyfaddef byny gyda thristwch a hunan-ffieidd- iad; ac o herwydd ei fod mor llawn o asbri am fyned a'i am- can yn mlaen er gwaethaf pawb, bu agos iddo -gael ei ladd pan oedd oddcutu 13 oed. Yr am- gylchiadau oeddynt fel y canlyn: Yr oedd y boneddigìon yn cadw Dawns-gymanfa (J3a//) yn Nghacrnarfon, a chanddynt wr pybyr iawn yn cadw y drws ; ac am fod John Jones yn hyfach nag ereill o fechgyn y drcf, an- turiodd fyned yn mlaen i'r lle yr oeddynt, er gwaethaf pawb. Ar hyn ceidwad y drws a ffyrniçrodd, ac a frathodd J. J. yn ei fein- gefn, â rîiyw oíferyn ag oedd ganddo yn ci law, ac ni bu dim trwch swllt rhyngddo a'i frathu cf i farwolaeth. O herwydd hyn ofnodd rhíeni J. J. nas gallai efe ennill ei fara trwy un math o galedwaith, ac am hyny rhodd- asant ef yn brcntis gydag Eill- iwr (Barber) yn y Ŵyddgrug, yn Sîr Fflint; yr oedd efe y pryd hyn oddeutu 16 ml. oed, á ím yno am ddwy flynedd. Yn fuan wedi hyny aeth ei rîeni i fyw i Amlwch^yn Sîr Fôn,ac aeth yntau yno atynt. Yr oedd John yn dilyn ei oferedd hyd nés oedd o 19 i 20 oed ; ond un boreu sab- both, pan oedd dau wr o gymyd- ogaeth Amlwch yn myned i wrandaw pregeth,, yr oedd Johu a chyfaill iddo ar y ffordd yn pitsho; dywedodd un o honynt wrtho, Jobn bach, deuwch gyda ni i Ledrod, i wrandaw pregeth ; ac fe aeth yntau gyda hwynt yn bur rhwydd, a'r tro hyny y caf- odd y gwirionedd effaith dclwys neillduol ar ei fetìdwl gyntaf. Etto cfe a fu tua blwyddyn wedi hyny heb ymuno â'r Gymdeithas neillduol yn Amlwch, ond yr oedd yn hynod o sobr, ac yn cyfranu llawer at achos yr Ar- gíwydd, yn yr ysbaid hyny ; ac y mae yn beth nodcdig iddo fod yn offerynol i argyhoeddi Cathe- rine Randle cyn iddo ymuno â'r Eglwys. ArferaiCatherine sefyll gogyfer â'i Siop ef i werthu teisenau, llc y byddai yn arfer llawer iawn o Iwon. Daeth yntau (J. Jones) allan, a dywedodd wrthi, " Catherine Randle, er 2f