Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GOLEUAD CYMRU. .....—^«o»» OFNWCH DDUW. ANRHYDEDDWCH Y BRENIN. Rhif. cxxxi.] MEDI, 1829. [Llyfr VI. BYWGRAPFIAD. COFIANT AM MR. ROBERT EDWARDS, Y Berthen Gron, Swydd Fflint; yr hwn a ymadawodd â'r byd hwn Awst 1, 1827, yn 65 mlwydd oed. Robert Edwards ydoedd fab i Thomas a Mary Edwards, gynt o Fryn-y-Barug, plwyf Ysgeifiog, Sîr Fflint. Bu yn wasanaethwr ffyddlon gyda'r Amaethwyr yn y rhan foreuaf o'i oes, a threuliodd y rhan olaf o honi yn y lle a elwir yn llyfr Iob, u Y llwybr nid adnabu aderyn," sef gyda'r mŵn-gloddwyr, am o ddeutu deugain mlynedd. Ac nid â llygad-wasanaeth y gwasanaeth- odd efe; ond pa heth bynag yr yrnaflai ei law ynddo i'wwneuth- ur, efe a'i gwnai â'i holl egni. Trefnodd rhagluniaeth iddo ef a'i wraig Eleanor fyned i fyw i Dŷ Capel y Berthen, yr hwn a adeiladwyd gan Mr. John Owens, ara yr hwn y gellir dywedyd, fel am Dafydd, na roddodd efe gwsg i'w lygaid, na hun i'w amrantau, nes iddo gaffael lle i'r Arglwydd, preswylfod i rymus Dduw Iacob. Ar ddyfodiad cyn- taf Robert Edwards i fyw i'r lle crybwylledig, nid oeddyn dangos nemawr o hynawsedd at na phre- gethwyr na gwrandawyr ; ond nid hir y bu heb i'r Arglwydd ym- weled ag ef, â " chodiad Haul o'r uchelder ;" ac efe a fu yn hynod mewn duwioldeb o hyny allan, ac hefyd mewn defnyddiol- deb. Nodaf ychydig o lawer o rinweddau ei fywyd crefyddol: 1. Ei ymarferiad ffyddlon a diwyd â'i ddyledswyddau tculu- aidd; megys darllen rhan o air Duw, a galwarnö mewn gweddi. Hyn a wnaeth trwy bob rhwyst- rau. Cymraered y rhai sy 'n fyr yn hyn ei esiampl ef. 2. Ei ymadroddion cyffredinol. Nid oedd yn gollwng ei safn i ddrygioni, na'i dafod i draethu twyll; ond yn aros yn ofn yr Ar- glwydd ar hyd y dydd, ac yn nyddanwch yr Ysbryd Glan. 3. Ei dymher fwynaidd; a'i elusengarwch wrth gyfranu at bob achos da, yr hyn a wnai yn ol ei allu. 4. Ei ofal cyffredinol am achos yr Arglwydd yn ei holl i'anau. Llawer a deithiodd efe, yn mhell ac yn agos, i nol a hebrwng pregethwŷr; a mawr oedd ei hyfrydwch wrth gael y fraint. Yr oedd yn ofalus iawn, nid am ambell i bregethwr, ond am bob un, y bychan fel y mawr (fel y'u gelwir); a hyny er mwyn eu gwaith. Gofalai, nid yn unig am y pregethwyr, ond hefyd am eu hanifeiliaid ; canys mor fuan ag y darfyddai yr odfa, edrychai am yr anifail, i weled a fyddai gan- ddo fwyd ddigon, &c. Os byr yw neb yn hyn, cymmered ei esiampl ef. Llawcr r chwedleu- odd efe á'r pregethwŷr am y pethau mwyaf eu pwys yn eu pregethau. 5. Yr oedd iddo air da gan bawb, a chan y gwirioncdd ei hun. Gellir dywedyd am dano, fel y dywedodd Cristam Nathan- 2k