Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GOLEUAD CYMIW. OrWWCH BDDW. iNRHYDBODWCH Y BRENI.N. Rhif. c\xxvm.] EBRILL, ]830. [Llyfr yii. ARFAETH DÜW A DYLEDSWYDD DYN. " Symad y cnawd,'' meddai Paul, sydd elyniaeth yn erbyn Duw.'> Pa beth a wnaeth Duw erioed, na wrthddadleuir yn ei erbyn gan natur lygredig ? Nid oes un gwirionedd yn yr holl Feibl, pa mor amlwg bynag ei datgudd- iwyd, neu pa mor eglur bynag ydyw ynddo ei hun, na ddarfu i feddwl balch.uchelfryd, ae anhy. blyg dyn, ffurfio rhyw wrthddadl. euon yn ei erbyn, a chodi rhyw anhawsderau yn ei gylch. Nid rhyfedd gan hyny fod cymmaint o ddweyd yn erb>n, a cham ddar. lnnio ar Árfaeth Duw a Rhag- limiaethiad, o herwydd y mae kon yn athrawiaeth a thnedd uniongyrch ynddi i ogoneddn gras Duw, i ddarostwng balchder dyn, ac i feithrin gwirsancteidd- rwydd. Llawer a wadant yn hacrllng yr athrawiaeth hon ; y mac gelyniacth eu ealouau mor reddfol yn ei herbyn, fel y chwyddant eu cableddau yn ddi- arswyd tu ag atti : haerant yn ddigywilydd ei bod ynannheilwng o Dduw, yn ddiobaith i ddyn, ac yn niweidiol i grefydd. Ond er en holl ddwndwr a'u cecraeth, " Y nne cadarn sail Duw yn se.fyll :" a phwy a wrthwynebodd ei ewyllus ef? Y mae Arfaeth ac Etholodigaeth mor eglur yn yr Ysgrythyrau, fel y mae yn syn fod neb a broffesant eu credin- ìaeth o'r Beibl, yn gallu eu gwadu. Y mae ereill, er addef Ai-faeth ac Etholedigaeth, yn eu cam- ddefnyddio yn echrydus, gan droi gras Duw i drythyllwch: at y rhai hyn yn benaf y cyfeiriaf fy ysgrif yn bresennol. Onid yw Duw, meddynt, wedi sefydlu yn anghyfnewidiol, sefyllfa dragy- wyddol pob dyn ? A phwy a all gyfnewidei fwriadauef? Osydwyf wedi fy ethol, nis gwaeth pa faint a bechwyf, oherwydd nis gall fy mhechodau fy namnio. Ac os na etholwyd fi, nîs gall fy holl ym- drechiadau fy achub. Os rhag- luniwyd fi i fywyd, paham y llaf- uriaf gyda y moddion, gan fod fy iechydwriaeth wedi ei sicrhau gan arfaeth anwrthwynebadwy Duw ? Ac os nad wyf wedi fy newis gan Dduw, ofer i mi feddwl am achub- iaeth, gan nad oes modd croesi ei amcanion ef. Fel hyn y mae llawer yn yroes hon yn cymnieryd arfaeth Duw yn ddadl dros eu diofalwch, yn esgus dros eu se- gurdod, ac yn orchudd dros eu pechodau. Oiid y mae y cyfryw ymresym- iad yn hollol dwyllodms, a'r cyf- ryw ymddygiad yn gwbl ffuantus ; a diammau fod y rhai a ddywedant fel hyna yn ymddifaîd o ddoeth- ineh a gras. Amryw ystyrìaetbau a ddangosant nad yw aríaeth Duw yn cau allan ddyledswydd dyn, nac yn un amddiflyinad i anufudddod dyn.