Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GEINIOGWERTH. Dyledswyddau rhieni. - Hyfforddia blentyn yn mhen ei ffordd."-8oz. Gah fod Duw wedi eieh anrhegu â'r fath dlysau gwerthfawr, sef plant, fe ddylech eu gwerthfawrogi fel ei roddion ; ac y mae Duw wedi eu rhoddi dan eich gofal, gan ddysgwyl i chwi gyflawni eich dyledswydd tuag atynt. Mae mwy ar ddwylaw tad a mam i'w wneuthur i'w plant nag a ddychymygodd llawer. Mae ganddynt hwy hob manteision i'w dysgu a'u hyfforddi ; oblegid y maent jn eu cael gyntaf, a chyn i ddrygau y byd eu llychwino; ac y mae éu meddyliau y pryd hwnw yn ystwyth ; ac os bydd rhywbeth anny- munol i'w weled ar eu meddyliau, gellir, heb anhawsder mawr, y pryd hwnw, eu gwellhau. Mae y meddwl ieuanc yn debyg iaw» i'r corff ieuanc ; ac os bydd rhywbeth annymunol ar hwnw, megys troed cam, &c, roae gobaith am wellhad tra byddo y bychan felly yn ei fabandod. FeÛy gyda y meddwl: os bydd yna dueddiad at ddyweyd anwiredd, tueddiad at ladratta, ncu at dyngu a rhegi, hawdd y gellir gweílbau y meddwl oddiwrthynt, ond achub yr adeg i wneuthur hyny. Dad, gelli foldio meddwl dy blentyn fel y mynot; gelli ei wneuthur yn enwog mewn daioni, neu ynte yn jDurpin mewn drygioni. Fel ag y dywed y Salmydd; " Fel y mae saethau yn llaw y cadarn; felly y mae plant ieuenctyd:" gan hyny, y mae llawer iawn yn ymddibynu ar law y cadarn, tra y byddo yn tynu yn y bŵa ; gall yru ei saeth i'r parth y myno ; ond wedi iddo ei golíwng unwaith, nis gall wneuthur dim o honi. Felly y mae gyda 'r tad a'i blant; tra y byddo dy blentyn ar dy aelwyd di, yr ydwyt yn tynu yn y bwa, gofala at ba beth y gollyngi y saeth: 09 unwaith yr à dy blentyn oddiwrthyt, nis geüi wneuthur fawr o hono mwyach, mwy nag o'r saeth wedi ei gollwng; am hyny, mae o bwys i ti annelu yn gy wir, ac achub yr adeg i wneuthur hyny. Mae llawer tad wedi bod yn tynu gwallt ei ben wrth weled ei fab yn cael ei grogi, os byddai yn meddẃl mai esiampl ddrwg a roes efe iddo : ond wedi myned yn rhy ddiweddar, y saeth wedi ei gollwng! Duw a wnelo bob tad yn Nghymru yn Benjaminiad, yn gallu an- nelu i drwch y blewyn. Ond, mae y meddwl yn myned yn anhaws i'w drin fel ag y mae yn heneiddio, gan hyny, " rhaid taro tra byddo yr haiarn yn boeth:'1 Maedyesiamplau di yn cael gwell effaith ar feddwl dy blentyn tra fyddo yn ieuanc, fel ag y mae y cwyr yn derbyn delw y sêl; ond nid cystal wedi i'r cwyr ddechreu caledu : nid cystal chwaith yr effeithia yr esiamplau wedi i'r meddwl ddechreu caledu. Gofalaam roddi esiampl dda; gofala fod delw y sêl yn gywir—j ddelw y dy- munet ei gẃeled yn argraffedig ar galon dy fachgen. O'r fatà ofal a ddylid ei gymeryd rhag dywedyd un gair drwg, Thag ofn i'r bychan ei ddal! O'r fath ofaJ addylid ei gymeryd rbag cyflawni yr un weithred ddrwg, rhag ofn i'r bychan grmeì>d esiampl oddiwrthi: obîegid dyna enaid anfarwol yn dyfod î'r byd MAWRTH, 1849.J n