Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GEINIOGWERTH. Yr olwg ddiweddaf ar ddyn yn boddi. Wbth wrandaw pregeth er ys ychydig amser yn ol, un peth tra addysgiadol a gawsom, oedd darluniado ryw deithiwr yn ngwyneb llongddrylliad. Yr ydym yn hyderu ein bod wedi cael Lles trwy y bregeth hono. Yr ydym, pa fodd bynag, wedi meddwl llawer am y rhan yma o honi, a cheisio ei droi yn gymhwysiadol atom ein hunain. Rhoddwn rai o'n haddysgiadau ar lawr, gan na wyddom na bydd i eraill wneyd yr un peth. Yr oedd y teithiwr, y mae yn eglur, yn meddu rhyw gymaint o dda y byd hwn, oblegid yr oedd amryw bethau yn cael eu dwyn gydag ef yn y llong; ac fel y mae yn dygwydd yn aml, yr oedd ei fryd ef yn fawr ar ei drysorau. Pan yr oedd pawb wedi anghofio y cwbl ond eu bywydau, gwelid ef yn crynöi ei deganau ac yn eu gosod yn bwn ar ei gefn; a chan faint ei ofal am danynt, cymerodd rafiau arhwymodd hwyntynsicr wrth ei gorff ei hun. Érbyn hyn mae y dymbestl mor gynddeiriog fel y mae y llong yn gorfod rhoddi ei hunan i fynu yn ysglyfaeth i'r tònau. Dacw y dynion hwythau, rhai yn y bàd, ac eraill yn ceisio nofio heb ddim, yn gwneyd ymgais benderfynol am y làn, yr hon o drugaredd nid oedd ymhell. Dacw y gwr a'r pwn yntau yn rhwyfo, ond ymhell iawn yn ol. Ymladdfa galed ydyw. Yr wyf yn goifod ofni mai colli y dydd a wna. Gadewch i ni weled, pa beth y mae yn wneyd yn awr ? Aî ceisio tynu y pwn yn rhydd y mae efe ? Àh! dacw fe wedi soddi. Yr olwg ddiweddaf a gafwyd arno wrth soddi, oedd yn dattod y rhaffau oedd ef wedî glymu am dano ei hun. % Ddarllenydd ! nid dyna yr unig un a welwyd pan yn boddi yn ceisio dattod y rhaffau oedd ef wedi glymu am danofei hun. Nid oes genym fawr o amcan i allu dyweyd faint o rifedisydaDobblwyddynyn Nghymru, yn caei eu dal mewn yst^r ysbrydol, yn y rhaffau y maent wedi eu gwneyd iddynt eu hunain ; a ma *r yw y drafferth sydd ar lawer wrth geisio dyfo \ yn rhydd o'r rhaffau hynv. Arweinir ni yn y fan yma yn naturiol at eiriau y gŵr doeth, " Ei anwiredd ei hun a ddeil yr annuwiol, ac efe a ddelir & rhaffau ei becho ì ei hun." Byddai yn dda genym aîlu tynu sylw darllenwyr j "Oeiniogwerth," yn enwedig y rhai hyny o honynt ag eydd yn ieuainc, i edrych ac ys- tyried y modd mae dynion yn c«el eu dàl yn y cadwynau y maeut yn eu gwneyd iddynt eu hunain. Oellir dyweyd gyda golwg ar lawer s?dd roewn gofidiau a gor- thrymderau yn y byd hwn, mai wedi eu dàl y maent gan eu pechodau eu hunain. Medi y maent firwyth y pethau a hauwyd ganddynthwy eu hunain. Nid ydym yn dyweyd nac yn barnu ychwaith fod Duw yn taJu i ddynion yn ol eu gweithredoedd yn y byd hwn. Amlwg ydyw aoi lawer o fiinderau sydd yn cyfarfod plant dynion yn y bywyd hwn, uad ydynt yn canlyn yn naturiol Awst, 1849.]