Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GEINIOGWERTH. Llawenydd trwy Gredu. I ae pechadur, trwy gredu, yn dyfod yn etifedd bywyd tragywyddol; . ; felly mae iddo gredu yn destun llawenydd i bawb, ond y diafoi ,fae ef yn rhyfeddol yn erbyn i neb gredu ; mae yn dyfod i"r oedfa ob tro, neu rai o'i genadau drosto, a'r neges yw, cymeryd ymaith y >;air o galonau, rhag i neb gredu a bod yn gadwedig. Mae y diafol yn ■jiibyd yn erbyn i neb gredu. Ti gei wneyd pob ystumiau gyda chrefydd, heb iddo fod ddim llawer yn erbyn, ond i ti beidio a chredu. Oei ddyfod i'r society a chymuno ; ac ni ofala efe ddim pe byddai iddynt dy wneyd yn âaenor, ond iti beidio a chredu. Ië, ni wrth- wyneba y diafol gymaiut i ti fod yn bregethwr, a bod yn un a gan- raolid gan ddynion hefyd, ond i ti beidio a chredu. Ti gei fyned yngyfoethog os gelli, heb iddo wrthwynebu. Ië, yn wir, ni byddai yu waeth ganddo roddi heip llaw i ti ymgyfoethogi, os byddai hyny rywbeth at dy gadw di yn ddiddig heb gredu. Cei ddysgu Groeg a LWiin hefyd y faint a fynech, ond i ti beidio a chredu. Cadw y dynheb gredu yw amcau mawr y diafol o hyd ; ac felly, efallai fod gweled pechadur yn credu, yn achos gofid iddo ef. Nid yw pechadur yncael ei gadw, yn gwneyd mohoni ddim gwaetharnoef chwaith ; ond yn unig ei t'od ef mor ddrwg ei ewyllys : mae arno ef y fath gynfigen, fel y mae gwelei y truan yn credu ac yn mynei trwodd o farwolaeth i fywyd, yn ei ofìdio. Ond os yw hyn yn ei ofidio druan, nid oes genyf ddim mwy o gŵyn iddo, na dywedyd, ei ofidio a gaffo efe. Ei ofidio a gaffo, a'i ofidio a gaiff hefyd, o hyn i ddiwedd y byd, yn fwy o'r hanner nag o'r dechreu hyd yma. Fe amlha credu beunydd bellach. Ond am bawb arall, oddigerth v diafol a'i weision, y mae gweled pechadur yn creiu yn destun llawenydd iddynt. Mae felly i'r eglwys ar y ddaear, a gweinidogionygair ynenwedig. Mae felly i'r eglwys yn y nef. Darllenwn am lawenydd yn y nef, all&wenydd yn ngŵydd augelion Duw am un pechaduryn edifarhau. Mae hyn yn destun llawenydi i Grist hefyd. Yr oe<id achubiaeth y wraig o Samaria gynt, yn destun y fath lawenydd iddo, fel yr anghofiodd fwyta ei fara. Dydd llawenydd ei galon ef yw ei ddydd dyweddi â phechadur; Can. iii. 11. Mae i bechadur gredu yn destun llawenydd i Dduw. Pan y mae y troseddwr yn credu, mae yn dyfod ì'r fath dír, ag y niae Duwyn gallu maddeu iddo, a'iachub— yr hyn y mae Duw yn ei wneyd dan ganu ; Seph. iii. 17. Ond yn enwedig, y mae creiu yn cynnyrchu ILiweuydd i'r peohadur ei hun, " Ac a fu iawen gan greiu i Dduw, efe a'i hoíl deulu ; Áctau xvi. 34; neu fel y mae rhai yn cyfieithu, " A chan greàu i Duw, efe a fu lawen dros yr holl dỳ." Yr oedd wedi tori allan i ganmawi a diolch, fel rhyw hen Fethodist, mi feddyliwn. Yr oedd yn oiolch yn y f«*n lle yr oedd, y gallesid ei glywed dros yr holl dỳ; neu ynteu, yr oedd yn cerdded o'r naill ystafell i'r 11*11, ac yn diolch tipyn yn mhob RHAGrya, 1849.]