Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GEINIOGWERTH. Boddlonrwydd. Boddlonbwydd sydd rinwedd gwrthwyneb i duchan, grwgnach, ac anniddigrwjdd—ysbryd pigog ac anhawdd rhyngu ei fodd, yr hwn ysbryd sydd barod i dori allan ar flyneddau fel y flwyddyn hon, ac nid hwyrach yr un a ganlyn. Ni byddai yn briodol dyweyd fod angel yn anfoddlawn, nac yn wir- ionedd pe dywedid fod cythraul yn foddlawn ; oblegid y mae angel yn cael pob peth at ei feddwl, heb ddira yn tynu yn groes iddo: ae o'r ochr aralî nid oes diin wrth fodd y diafol, nac yntau wrth fodd neb arall. Nid boddlonrwydd y Cristion yw dedwyddwchyrangel —-cael ei feddwl i gydyruffurfiad â phob peth llywodraeth Duw yn y nef yw dedwyddwch yr angel, a chael ei ferìdwl i ymostyngiad tawel i lywodraefch Duw ar y ddaear yw y boddlonrwydd sydd yn inynwes y Cristion. Tybia rhai eu bod yn foddlawn pan nad ydynt ond yn ddifyr, neu yn llawen fwynhau eu pleserau anianol, am ryw hyd. " Canu a wnant a bod yn llawen, Fel y gog ar frig y gangen." Eraill a gyfrifant eu hunain yn foddlawn tros ben, pan nad ydynt ond difater a dideimlad. Ni waeth ganddynt hwy ar y ddaear ffordd y cerddo y byd, nid yw iselbris ac uchelbris nwyfau ac anifeiliaid ond yr un peth iddynt; y maent hwy fel Twm Dwncyn, yn gefnllwm ac esgeirnoeth, yr hwn, ar y diwrnod oeraf, a ddywedai nad oedd aino ef ddim anwyd, ac na byddai ar neb arall ddim pe rhoddent gymaint ag a feddent am danynt fel efe. Y mae rhaifel hyn,wedi ymfoddloni, yn tynu arnynt anfoddlonrwydd rhai eraill. Ond y boddlonrwydd sydd gysylltiedig à duwioldeb a gynnwys yn 1. Derbyniad dlolohgar y duwiol o holl drugareddau Duw yn ei iachawdwriaeth a'i ragluniaeth, ac ymostyngiad tan alluog law Duw yn ei geryddon, ac yn holl gToesau ei daith trwy y byd. t 2. Cynnwys ystyriaethau teüwng am lywodraeth y Duw mawr— ei bod yn gyfiawn, yn ddoeth, ac yn dda. Dywed mai yr " Arglwydd syddyn teyrnaffu, gorfoledded y ddaear, Uawenyched ynysoedd lawer." f Gobaith gwastadol yn y meddwl y bydd i bob peth gyd- weithìo er daioni yn y diwedd, pa un bynag ai hawddfyd ai adfyd Caiff y naill fel y llall wasanaethu yn eu tro i ddwyn oddiamgylch y lles mwyaf—y T>ydd i'r " byr ysgafn gystudd," tan fendith y nef, weithredu tragywyddol bwys gogoniant i ni." 4. Cynnwysa yr ystyriaefeh ei bod yn llawer gwell nag yrhaedd- Chwbfeor, 1850.]