Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GEINIOGWERTH. Dmiel Rowlands, a'i Âmserau: GAN Y PARCII. WILLIAM PRYSE, CENADWR, CASSIA. (PARHAD O TüDAL. 5.) Cüwyldroad Ffrainc, a'i ganlyniadau, o dan lywyddiad Buonaparte, yn ddiau agynhyrfodddeimladau pob mynwes trwy Ewrop—torodd ymaith obeithion a bwriadau llawer pen coronog—sychodd redwelîau llu o arferion cenedlaethol, na chawsant ail-rediad byth gwed'yn; ond yn benaf oll, gosododd y cysylltiadau oedd rhwng y teyrnasoedd âg awd- urdod y pab, yn y fath seíÿllfa,~fel na ddarfu iddynt ym- blygu cymaint iddo byth ar ol hyny. Ond pa gyfartaledd a gawn, mewn gwir fawredd ac uchder cynneddfau, rhwng Buonaparte a Rowlands? neu rhwng chwyldroad y Cyfandir a chwyldroad Cymru ? Yn Napoleon, cawn gynneddfau naturiol yn ymwthio i'r golwg, pa rai a'i cyfeirient yn wastad i ysgrifenu ei fawredd â gwaed ei gydgreaduriaid, a meddwl cyflym a bywiog i ddwyn y tueddiadau hyny i gyflawniad : hwyrach fod yn bo3Ìbl bod yn rhyfelwr heb f'od yn ffyrnig; ond nid un felly oedd Napoleon, bydded gwenwyniad ei filwyr ei hun yn dystiolaeth. Ai genius oedd y fath gyfansoddiad meddyliol a hyn ? Os felly, ymddengyg i ni y fath isaf a mwyaf gwaedlyd o bob math o genius. Ond yn y Diwygiwr Cymreig, cawn dymher llawn mor fyw- iog, a serchiadau llawn mor danbaid a'r eiddo Buonaparte, a'r oll o dan lywyddiaeth deall treiddgar a thafod-leferydd hyawdl—cydrediad y cynneddfau hyn, wedi eu " gwisgo â nerth o'r uehelder," a ddaethant o faes eu rhyfel, gwedi bwrw i lawr gryfach rhwystrau, a gorchfygu mwyystyfnig gelynion, nag y cafodd Napoleon y trechat arnynt erioed yn Aü3teriitz, Jena, neu Marenzo. Os gwyddom pa beth a ddaw dan yr enw genius, tybiem fod cydgyfarfyddiad y cynneddfau hyn yn ci gyfansoddi. Chwyldroad y cyntaf Ciiwefror, 1851.] c