Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GEINIOGWEllTII. Yr Hen Gymdeithasfaoedd. Y mab yn awr ger ein bron lien lyfr ysgrifen, yn cynnwys cofnodau o gyfrifon arianol Cymdeithasfaoedd y Methodist- iaidynNgogledd Cymru, o'r üed o Fawrth, 17öü, hyd y 18fed o Ebrill 1797; ynghyd á rhai o'r penderfyniadau y cytunwyd arnynt yn y cymdeithasfaoedd hyny. Yr oedd hoíl siroedd y Gogledd yr amser hyny yn eydgasglu at godi capeli, ac yn dwyn y casgliadau i'r Gymdeithasfa Chwarterol. A dengys y cofnodau yn amlwg fel yr oedd yr hen dadau, dan lywodraeth cariad at achos Crist, yn cydymdeimlo, ac yn cynnorthwyo eu gilydd. Efallai fod y tymmor wedi myned heibio i'r gwahanol siroedd wneyd llawer o gymhorth i'w gilydd gyda dyledion y capeli; ond y mae achosion cyffred- inol yn bod eto; a plie ceid mwy o'r ysbrycî oedd yn yr hen bobl, diammhau y byddai mwy o ffyddlondeb i gyfranu tuag atynt. Y mae yn ymddangos i ni fod dau achos neill- duol yn deilwng o gydweithrediad yr holl siroedd; yn gyntaf, cynnorthwyo hen bregethwyr, y rhai sydd wedi treulio oes lafurus a defnyddiol yn ngwasanaeth y cyfun- deb; ac yn ail, cynnorthwyo i roddi addysg i bregethwyr ieuainc. Er mwyn codi awydd i weithredu yn fwy egn'iol i ryw ddybenion cyffiedinol o'r fath yma, tueddwyd ni i gyhoeddi yr lianes a ganlyn am yr hen gymdeithasfaoedd. ühoddir y cofnodau am y rhai cyntaf yn gyflawn x yn y rhifyn hwn ; ond hwyrach mai gwell fydd talfyru y gweddill yn y rhifynau dyfodol, rhag blino y darllenydd. Yr oedd y casgliadau hyn yn cael eu gwneyd i fyny o ddimai yn yr wythnos oddiwrth bob aelod; ac felly maent yn rhoddi gradd hysbysrwydd am nifer yr aelodau yn mhob sir. Yn y Gymdeithasfa a gynnaliwyd yn y Wyddgrug, ar y 1 Ond dylem ddywedyd fod yr hanner cyntaf i'r llyfr yn Seisoneg, ac mai cyfieithiad yw yr holl gofnodau arianol yn y rhifyn hwn. GORPHEIÍÀF, 1851.] H