Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GEINIOGWRRTH. Gogoniant y Saint y Dydd Diweddaf. "Yna hefyd yr ymddangoswch chwithau jjydag ef mewn gogoniant." Mae llawer o'r saint yn y fuehedd hon yn guddiedig iawn. Mae rhai felly o herwydd tlodi, ac eraill o ddiffyg doniau naturiol. Fel y nant fechan yn eigion yr anialwch, mae hono yn guddiedig iawn; mae yn rhedeg bob dydd, ac yn gwaeddi am y mor bob dydd yn ei hiaith, mor groew a'r afon fawr sy'n rhedeg trwy ganol Llundain. Ac hefyd mae'n dyfrhau y gwreiddiau a'r llysiau sydd yn tyfu gerllaw iddi; ond nid oes nemawr lygad yn ei gweled yn nghorff blwyddyn. Fellyydynduwiolynfynych. Maeefynbywyn dduwiol, mae'n wir, yn y cylch bychany mae yn adnabydd- us; ond bychan iawn yw y cylch. Mae sylw Duw arno bob mynyd, cofied hyny rhag ei ddigaloni; mae ei Dad nefol yn cyfrif ei holl ddagrau, ac yn eu cadw yn eigostrel bob un. lë, mae'n sylwi ar ei ddymuniadau da, pryd nad allo ef eu cyflawni. Ond o ran sylw gan ddynion arno, mae y duwiol yn fynych yn guddiedig iawn. Hefyd, mae yr holl dduwiolion yn y diwedd yn cael eu cuddio o ran eu cyrff yn ystafell dywell ac oeraidd y bedd. Ond yw yr adnod uchod, mae genym hanes boreu y deuant i'r golwg drachefn—byddant yn ymddangos. Moliant i Dduw am y drefn rasol sydd ganddo i wneyd rhai o hil syrthiedig Adda yn gyfry w ag y bydd yn werth eu dangos! Bydd duw- iolion yn nydd y farn yn ogoneddus, yn gyferbyniol a'r peth ydynt yma. Maent dan fesur o warth yn y fuchedd hon ; mae pechod yn preswylio ynddynt, effeithiau pechod arnynt, ac mewn llawer o bethau maent hwy bawb yn llithro; ac rywfodd,^eu gwarth hwy sydd fwyaf dan sylwgan y byd. Mae pethau gogoneddus yn perthyn i gyflwr y saint yn bresennol; maent yn feibion i Dduw, ac yn gydetifeddion â Christ. Ond nid y w y byd yn gweled y pethau gogoneddus hyna'ucyffelyb. Mae rhy wddr wg ar lygaid y byd, fel nad yw Awst, 1850.]