Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GEINIOGWERTH. Duwióldéb a Defnyddioldéb. Ddarllenydd—Nid yw y llyfryn hwn yn adnabod ond dwy blaid yn yr holl fyd, sef y duwiol a'r annuwiol: a'i neges cyntaf yw gofyn yn serchiadol a difrifol, I ba un o'r ddwy yr wyt ti yn perthyn ? Cyn niyned yinhellach, a gawn ni ddeisyf am i ti aros ych- ydig uwchben y gofyniad hwn ? Aros i gasglu dy feddyliau at eu gilydd, ac yn enwedig i ddyrchafu dymuniad dystaw at Dduw ani íbd darlleniad y llinellau hyn yn lles i'th enaid. Ánwyl ddarllenydd—Ti a elli droi y gofyniad heibio ar hyn o bryd, a myned ymaith yn ddiystyr i dy faes neu at dy fasnach; ond yn fuan bydd yn rhaid ei benderfynu am byth. Fe ddaw angeu ! Fe ddaw barn ! Fe ddaw tragywyddoldeb ! " Canys pan ddywedant, Tangnefedd a diogelwch, yna y mae dinystr disymwth yn dyfod ar eu gwarthaf, megys gwewyr esgor ar un a fo beichiog ; ac ni ddiangant hwy ddim." Y mae yr awr yn agos pan y bydd dy ysbryd anfarwol yn tehnlo ei fod yn nryned at Dduw, yr hwn a'i rhoes ef. Bydd holl flyneddau dy einioes wedi eu treulio fel chwedl. Bydd yr haf wedi darfod, a'r cynhauaf wedi myned heibio. Fe ddaw yr awr olaf mor ddiammheuol a bod yr awr hon wedi dyfod. Fe ddaw yr amser pan y bydd dy feddyliau gwasgaredig yn gorfod ymsefydlu uwchben dy fater tragywyddol, ac y bydd dy enaid yn dywedyd ynddo ei hun, Cyn pen ychydig fynydau caf wybod pa le y byddaf byth ! Os wyf annuwiol, gwae fi ! Gellid meddwl na fuasai neb o berchen rheswm yn medru gwynebu ar amgylchiadau mor bwysig heb feddwl yn ddifrifol am danynt; ac mai gwaith penaf pob dyn yn y fuchedd hon fuasaiparotoi erbyn tragywyddoldeb. Yr ydym yn gweled eraill yn marw o'n hamgylch : a raid i ni fyned ar eu hol, ai ni raid ? Yr ydym yn gweled cer- byd amser yn teithio yn gytìym. Ni fedr neb ei attal am un awr. A ydym ni yn y cerbyd, ai ynte ar ochr y ffbrdd yn edr}Tch amo yn myned heibio ? Os ydym ninnau o nifer y teithwyr—os yw ein syìw a'n profiad beunyddiol ya dyweyd ein bod yn myned oddiyma, onid doethineb fyddai ystyried pa le y mae ein gyrfa yn debyg o ddybenu. Dyma ddau ddyn yn byw yn yr un gyniydogaeth. Y mae y naiil yn gwario ei holl amser gyda phethau y fynyd hon, fel yr anifel a ddyfethir. Y mae'r llall yn edrych ymlaen, yn bwrw y draul, ac yn ystyried beth a fydd ar ol hyn. Y mae y naill yn cy- meryd y ffbrdd esmwythaf, ac yn ddifeddwl am y canlyniadau yn adeiladu ar y tywod. Y mae'r llall yn cloddio, ac yn myned yn ddwfn, nes cael gafael yn y graig. Pa un o'r ddau a ymddengys ddoethaf pan ddelo y llifehiant i guro ar yr adeilad ? Ond pa fodd y mae i ni ddëall beth yw y sylfaen yr ydym yn pwyso arni ì Os gwrandawn ar leferydd Crist ei hun, ni a gawn mai y gwr doeth, yr hwn sydd yn adeiíadu ei dŷ ar y graig, yw yr hwn sydd yn gwrandaw ei air ef, acyn ei wneuthur. Ydynduwid yw y dyn sydd yn byw yn dduwiol. Y gwir Gristion yw yr hwn [Ionaivr 1847.] * b /