Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GEINIOGWERTH. Y Demtasiwn a'r Ddiangfa. (:Nid ymaflodd ynoch demtasiwn ond un ddynol : eithr ôyddlawn yw Duw, yr hwn ni âd eich temtio uwchlaw yr hyn a alloch, eithr a wna ynghyd â'r dcmtasiwn ddiangfa hefyd fel y galloch ei dwyn :" 1 Cor. x. 13. Un ystyr i'r demtasiwn yn yr adnod hon yw gorthrymder a gofíd. Ac mae llawer dyn yn barod i feddwi am ei ofid, nad oes gofid neb fcl ei ofid ef: ac yn wir, clywir ambell un yn dywedyd, "JSid yw cynddrwg ar neb ag arna' i. Ni bu hi cynddrwg ar neb erioed ag arnaf fi. 'Does dim modd iddi fod ddim gwaeth ar neb nag ydyw arnaf tì." 0 ! fy nghyfaül, yr wyt yn siarad yn rhy fras o lawer. Hi fu yn waeth ar lawer un : a gall'sai fod .yn waeth arnat tithau o lawer. A da iawn fyddai i ti ystyried hyuy hefyd. " Nid yrn- aflodd ynot demtasiwn ond un ddynol." Rhy w dröad meddwl budd- i»l iawn mewn awr o brofedigaeth yw hwn—ystyried faint gwaeth y gallasai hi fod. Teimlasom hyn yn fuddiol lawer gwaith. Dar- llenir am un fyddai yn arfer gwneyd felly. Yr oedd yn arfer caeí ei fbno gan ddau glefyd lled erwin ; ond yr oedd un o honynt yn erwinach na'r lla.ll, yn fwy poenus. A dyna fel y byddai efe, pan y byddai yr esmwythaf o'r ddau arno, byddai yn diolch yn gyn- lies iawn nad oedd y gerwinaf ddim arno yr amser hwnw. A phan byddai y tostaf arno, byddai yn diolch mor gynhes nad oedd y ddau ddim ar unwaith arno. Gwelwch, yr oedd e yn ystyried o hyd y gallasai fod yn waeth arno. lë, ond beth a wnacthai ef pe buasai y ddau ar unwaith arno ì medd rhywun. Weì, mae 'n hawdd i ti weled, wrth agwedd dduwiol ei feddwl ef, mai diolch y buasai efe wed'yn na buasai rhyw dri ddim ar unwaith arno. Mae eisieu i ni ystyried o hya y gallasai hi fod yn waeth arnom tra b'om allan o uffern, a diolch i Dduw ei bod hi fel y bydd. " Nid ymaíîodd ynoch dcmtasiwn ond un ddynol." Ond paham y mae gorthrymderau yn cael sôn am danynt fel profedigaethau a themtasiynau ì Mae'n debyg, am eu bod yn troi yn hudoliaethau ar lawer. Mae y gorthrymderau fel yr hudol- iaethau yn cael eu goddef gan Dduw i'r dyben i brofi y dyn ; yr un fath a'r tàn yn profi y fettel: ac y mae aml un yn methu dal ei brawf ; mae y gorthrymder yn troi yn hudoliaeth arno. Gwelsoch dlodi ambell un yn ei yru i ladrata. Rhyw ddyryswchamgylchiad yn gyru un aralì i ddyweyd celwydd. Afiechyd neu aflwyddiant bydol yn gyru un arall at swynwyr a dcwiniaid. Yn yr amgylch- iadau hyn mae y gorthryrmder yn troi yn hudoliaeth. Mae y myned at gonsurwyr, &c. i feddwl cael gwaredigaeth o ofid yn anfad yn- fydrwydd. Gobeithir nad oes neb o'n darllenwyr mor wan yn ei ben, heb son am galon, a byth wneyd y fath beth. Mae'n debyg iawn i'r coed yn y ddammeg. Yr oedd y fwyall yn eu poeni yn fawr iawn drwy eu tori i lawi yn barhaus. Ond rywbryd, gwnaeth- ant gyfammod na roddent byth yr un troed i'r fwyall mwy. Ar- wyddwyd y cyfammod gan yr onen, a'r dderwen, ac oll. Ond ryw [MaÌ, 1847.] e