Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GEINIOGWERTH. Anghenrheidrwydd am Iawn. Tybygwií fy mod yn gweled mynwent fawr anferthol, yn yr h»n y gerweddai llîaws dirif o hil Adda; yr oedd y lle yn llawn o ogofêydd marwol, a chwmwl tew wedi gorchuddio dros y île, fel nad oedd goleuni haul na lleuad, na chanwyll i!w gweled yno ; yr oedd y dorau yn fil gadarnach na dorau pres y byd, ac wedi eu cloi i fynu gan gyfiawnder dwyfol â bariau ac â chloion anfarwol, fel nad oedd gobaith am ddíangfa o'r lle tywyll hwn. " Yn Adda y mae pawb yn meirw." Gydag awel y dydd, dacw drugaredd weda disgyn i waered o nef y nefyn ngherbyd yr addewid foreu, a ehyda hi berson, tebyg i Fab y dyn, neu Had y wraig. Trugaredd a alwodd wrth y porth haiarn marwol, gan ddywedyd, Fy mrawd cyfiawnder, yr wyt yma yn cadw gwyliadwriaeth ar y lle ciaddu hwn, ac wedi selio y maen marwol â sel Duw. Ydwyf—Pa beth a fỳni di, fy chwaer trugaredd 1 Fy neisyfiad ydyw cael ffbrdd rydd i fyned i mewn at drigolion y fynwent hon ; pe cawn, myfi a ©sod- wn agwedd bywyd yn lle angeu ar y llanerch ddidoledig hon. Dëall fi, fy chwaer, ebe cyfiawnder, gwn nas gelli di o gariad at gyfiawnder dori y cloion yma, ac nis gallaf finna.u agor y drws, nid o lid at y trigolion annedwydd, ond o gariad at ddeddf Duw. " Heb ollwng gwaed nid oes maddeuant." Yno dyrchafodd tru- garedd ei gwynebpryd siriol, golwg ar yr hwn oedd yn ddigon i weithio gobaith trwy y fj'nwent, ac yr oedd Had y wraig yn sefyll yn ei hymyl—Fy mrawd cyfiawnder, a gymeri di fachniydd, hyd oni ddelo yr amser i'w dywallt, fel y gallwyf fi gael agoriad pyrth marwolaeth i fyned i mewn atynt ì Gwnaf, ebe cyfiawnder, ond ei gael o berthynas digon agos â'r Deddf-roddwr, ac â thrigoíion y fynwent; canys rhaid iddo gael ei ddwyn i fynu yn y llŷs uchod o ran ei berson, a'i fynediad allan er cynt, er dyddiau tragywydd- oldeb ; ac y mae yn rhaid ei eni yn ei natui" ddynol yn Methlehem, tufewn i'r fynwent, a sugno bronau morwyn oddiyma, a byw yma o fewn cyffiniau y fynwent, o gylch tair-ar-ddeg-ar-hugain o tìyn- eddau, a chael ei aberthu ar bren tufewn i'r cauadle hwn. Yna Had y wraig a nesâodd ymlaen, ac a ddywedodd, A gyineri di fi yn fachnîydd ? Edrychodd cyfiawnder yn fanol aruo, a dywed- odd, Gwnaf o'm bodd, am gan' mil mwy, pe huasai achos, canys yr wyt wedi dy ddwyn i fynu yn llŷsy Deddf-roddwr er tragywyddol- deb ; a thi a fyddi yn Had y wraig ; yr wyf ya canfod dy sawdl waedlyd. Cyfiawnder, pa beth yw dy ofyniad / Darostyngiad am godiad, a bywyd am fywyd, ac angeu am angeu. Dyma fi, ebe Had y wraig, yn taro fy llaw yn dy law di, ac yn ysgrifenu fy euw yn rhol ílyfr yr ysgrifen wyf yn roddi i ti, y bydd i mi " Dalu iawn ar bren mor ddrud, Sy'n fwy na holl ffieidd-dra 'r byd." Dyro dithau agoriad y fynwent i drugaredd. Dywed di, gyfia Yuder [Awst, 1347.J R