Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GEINIOGWERTH. Ehinwedd mewn Profedigaeth yn cael ei arddangos yn hanes Amanda. Cefais achlysur fwy nag unwaith i goflfa dywediad ardderchog o eiddo Seneca yr athronydd, sef, Fod bod un rhinweddol yn ymladd â phrofedigaethau, ac eto yn medru ehedeg uwchlaw iddynt, yn wrthddrych ag y gallai y duwiau eu hunain edrych i lawr arno gyda hyfrydwch. Gan hyny, rhoddaf ger bron fy narllenwyr am- gylchiad o'r fath, a ddygwyddodd mewn teulu penodol i fod yn destun yr ymddyddan am heddyw. Rhyw ddinesydd enwog, yr hwn a arferai fyw mewn dull cyfrifol yr hwn hefyd oedd ŵr parchus ; ond trwy gyfres o ddygwyddiadau a dyryswch anwrthwynebol yn ei amgylchiadau, efö a ddarostyng- wyd i iselder a thlodi. Ac fel y mae yn gyffredin ryw wylder yn dilyn tlodi nas gellir wrtho, felly yntau, yn lle pwyso ar ei gyfeillion am fodd i fyw yn wych, pan nad oedd ganddo y modd hwnw ei hun, a ddewisodd yn hytrach lunio ei ddull o fyw i'r peth oedd ei amgylchiad ar y pryd. Ei wraig, yr hon oedd ddynes yn berchen synwyr a gras, a ymddygodd ar yr achlysur gyda gweddeidd-dra anghyffredin ; yr oedd yntau erbyn hyn yn ei gweled yn llawer mwy dymunol a charuaidd nag y gwel'sai hi erioed o'r blaen. Y-n lle dannod iddo y cyfoeth mawr a ddygasai hi gyda hi, na 'r cyn- nygion uchel yr oedd wedi eu gwrthod er ei fwyn, hi a ymroddodd mewn caredigrwydd iddo yn fwy nag o'r blaen. Parai hyn iddo yntau gwyno wrthi o'i gaion yn barhaus, ei fod wedi andwyo y ddynes oreu ar y ddaear. Weithiau, deuai adref ar amser pryd na byddai hi yn dysgwyl, a'i chael mewn dagrau, y rhai y ceisiai hi eu cuddio ; a bob amser, ymdrechai i fod yn siriol i'w dderbyn ef. Er mwyn lleihau eu traul, anfonwyd eu merch hynaf, yr hon y câf ei galw Amanda) i'r Avlad, i dỳ amaethwr gonest, yr hwn oedd wedi priodi un a fuasai yn forwyn yn y teulu. Yr oedd y ferch ieuanc hon yn ystyriol o'r galanastra oedd yn nesau; ac felly yr oedd Wedi cytuno â chyfaill yn y gymydogaeth, am anfon iddi air o bryd i bryd pa fodd y byddai amgylchiadau ei thad a'r teulu. Yr oedd Amanda yn mlodau ei hieuenctid a'i harddwch, pan y bu i ar- glwydd y faenol, yr hwn a alwai yn fynych yn nhŷ yr amaethwr, pan yn dilyn ei helwriaeth a'i ddifyrwch, syrthio mewn cariad ang- erddol â hi. Yr oedd yn ddyn o haelfrydedd mawr, ond o herwydd cam-ddygiad i fynu, yr oedd wedi coledd gwrthwynebrwydd calon i briodas. Ganhyny, nid oedd yn amcanu lai nag yspeilio Amanda o'i diweirdeb,ond barnodd yn ddoeth ar y pryd gadw hyny ynguddiedig. A'r creadur diniwed, yr hon nad oedd erioed wedi drwgdybio ei am- canion ef, oedd yn dra hoff o hono ; a chan ei bod yn gweled ei fod yntau yn myned hofíach hoffach o honi hithau, dechreuai obeithio y gallai cyn hir, trwy y fath undeb manteisiol, fod mewn sefyllfa ag y gallai gynnal ei pherthynasau ag oedd wedi myned mor dlor>- ion. Un diwrnod, pan y galwödd yno i ymweled â hi,efe a'i cafodd [Mhdi, 1847.] s