Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GEINIOGWERTH. Cyjiwr yr Ânghredadyn. Felly y darlunir sefyllfa yr hwn sydd heb gredu yn Mab Duw, " Eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef." Yr ydym i ddëall wrth y digofaint hwn yn unpethwrthdarawiadnaturDuw—éigas- ineb at bechod a phechaduriaid. Mae yr anfeidrol yn caru sanct- eiddrwydd, gan hyny nis gall lai na chasau pechod. Ms gall wrtho ei hun, nid oes ganddo help ei fod feliy. " Eithr câs gan ei enaid ef y drygionus, a'r hwn sydd hoff ganddo draws- der :" Solm xi. S. Mae y casineb hwn yn ddigyínewid ac ang- erddol iawn: mae yn gymaint felly, fel y geilw yr ysgrythyr ef yn fynych yn ddigofaint. Er mae yn wir nad ydym i olygu fod yn Nuw unrhyw nwyd gythryblus, fel y bydd digofaint yn y cyffredin mewn dyn : na, mae y Bod mawr uwchlaw hyny. Pe gwrthryfelai yr holl grëadigaeth yn ei erbyn yr un dydd, ni chyn- hyrfai hyny ddim ar ei feddwl mawr ef, ond parhâai i fod yn " wir Dduw y tangnefedd " er hyn i gyd. Ond eto mae ei gas- ineb at bechod a phechadur yn ddigyfnewid, yn nerthol ac ofnadwy iawn. A'r hwn sydd heb gredu, mae yn nod i'r casineb a'r digof- aint hwn. Mae yn gâs gan Dduw am dano—mae yn " ddigllawn beunydd wrtho." Ond medd rhywun, fel pechaduf mae Duw yn ddig wrtho, ac nid fel dyn. Mae hyny yn ddigon gwir, ond pwy a all wahanu rhyng- ddynt ? Nid oes fodd ond mewn geiriau yn unig. Mae yn an- nichonadwy gwahanu mewn gwirionedd rhwng y dyn a'r pech- adur. Pwy a all adael y pechadur gartref ac anfon y dyn i'r oedfa. Neu pwy a ddichon anfon y dyn i'r ffair, a gadael y pechadur gartref î Mewn gwirionedd, nis gall neb, am mai yr un un ydynt. Y dyn yw y pechadur, a'r pechadur yw y dyn. Ac felly, nid yw yr wrthddadl hon dda i ddim, ond i fod yn fath o gysgod i gydwybod pochadur rhag awch bygythion Duw, a thrwy hyny ei suo i gysgu ynyperygl. Ddarllenydd, os wyt heb gredu, gwybydd, y mae yn gas gan Dduw am danat—mae ei gâs a'i lid ef arnat. Diammheu pe dyw- edasid wrthyt fod dy gymydogion yn dy gasâu, y buasit yn teimlo yn fawr. A buan y gofynasid, Pa beth a wnaethum i iddynt ì Pa achos sydd iddynt fy nghasau i ? Ond dyma anfeidrol fwy os wyt heb gredu, mae Duw yn dy gasâu—mae ei ddigofaint yn aros arnat. Mae Duw yn fwy i ti, nid yn unig na'th gymydogion. ond na'r holl grëadigaeth. Mae Duw mor anfeidrol fawr, a thithau mor hollol ddibynol arno, fel y mae ei anfoddlonrwydd yn ddigon o uffern, a'i foddlonrwydd yn ddigon o nefoedd am byth. Hefyd, yr ydym i ddëall wrth y digofaint yr holl gosbedigaeth a syrthia ar y pechadur yn y byd a ddaw. Maehon yn aros arno, fel y mae wedi ei ddedfrydu i'w dyoddef. Fel yr hwn a dero gyfraith y wlad trwy lofruddio ; pan y profir ef yn etiog o hyny, mae y barnwr yn ol y gyfraith yn cyhoeddi dedfryd marwolaeth arno. Ac o'r dydd awbw allan, er efallai m. roddir y ddedfryd RBAorrn, 1847.] x