Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GEINIOGWERTH. Pechaduriaid yn nioyìaw Duw digüawn. GAN JONATHAN EDWARDS. Nid oes dim yn cadw dynion annuwiol allan o uíFern unrhiyw fo- ment ond ewyllys da Duw yn unig. Wrth ewyllys da Duw yr wyf yn meddwl ei ewyllys benarglwyddiaethol, yr hon ni attelir gan un- rhyw rwymedigaeth ; ac ni rwystrir gan un math o anhawsder, ddim mwy na phe na byddai dim i unrhyw radd, neu mewn uurhyw fodd â llaw ganddo yn arbediad dynion anmiwiol am un foment ond ewyllys da Duw. Ymddengys gwirionedd y sylwad hwn wrth ystyried y pethau canlynol :— 1. Nid oes eisieu gallu yn Nuw i fwrw dynion annuwiol i uíFern ar unrhyw foment. Nis gall dwylaw dynion ymgryfhau pan gyf- odo Duw. Ni fedd y cryfaf allu i'w luddias ef, ac ni bydd a achubo o'i law ef. Nid yn unig y mae efe yn alluog i fwrw i uffern, ond efe a all wneyd hyny yn y modd hawddaf. Weithiau y mae tywysog daearol yn cyfarfod â Uawer iawn o anhawsder i ddarostwng y gwrthryfelgar, a fyddo wedi cael moddion i'w amddiffyn ei hun, ac wedi ymgadarnhau yn lliosogrwydd ei ganlynwyr. Ond nid ydyw ^ly gyda Duw. Nid oes unrhyw amddiffynfa yn un math o ddio- gelwch rhag gallu Duw. Er i law ymaflyd mewn llaw, a lluoedd mawrion o elynion yr Arglwydd ymuno ac ymgymdeithasu, yn hawdd y dryllir hwy yn ddarnau ganddo ef. Maent fel pentyrau mawrion o fân-us ysgafn o flaen corwynt; neu fel swm mawr o sofl sych o flaen fflamau difäol. Yr ydym yn canfod fod yn hawdd sengi ar, a llethu pryf a welwn ni yn ymgripian ar y ddaear ; neu ddeifio edau fain y mae unrhyw beth yn crogi wrthi: feiìy hawdd ydyw i Dduw, pan yr ewyllysio, i fwrw ei elynion i uffern. Pa beth, ydym ni i feddwl sefyll ger ei fron ef y cryna'r ddaear wrth ei ger- ydd, ac y bwrir creigiau i lawr o'i flaen ! 2. Maent yn liaeddu eubwrw i uffern ; fellynidydywcyfiawnder Duw byth yn sefyll ar y flordd; nid ydyw yn gwneuthur dim gwrthwynebiad i Dduw arfer ei allu ar unrhyw foment i'w dinystrio hwy • ie, yn y gwrthwyneb, y mae cyfiawnder yn galw yn uchel am gosbedigaeth anfeidrol o'u pechodau. Mae cyfiawnder dwyfol yn dywedyd am y pren sydd yn dwyn y fath rawnwin Sodomaidd, " Tòr ef i lawr, paham y mae efe yn diffrwytho y tir V Luc xiii. 7. Mae cleddyf dwyfol gyfiawnder yn ysgwydedig bob moment uwcb eu penau, ac nid oes dim yn ei gadw draw ond llaw trugaredd ben- arglwyddiaethol ac ewyllys da Duw. 3. Maent eisoes dan ddedfryd o gondemniad i uffern. Nid yn unig y maent yn haeddu cael eu bwrw i lawr yno, ond y mae ded- fryd deddf Duw, y rheol dragywyddol ac anghyfnewidiol hono o gyfiawnder a osododd Duw rhyngddo ef ei hun a dynion, wedi fflyned allan yn eu herbyn, ac yn aros yn eu herbyn ; fel y maent eisoes yn rhwym i uffern. " Yr hwn nid yw yn credu a ddamniwyc* ÖORPHENAF, 1848.1 H