Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GEINIOGWERTH. UA icyt ti yn d'èall y peth.au yr icyt yn eu darllen ?" Y mae llawer nad ydynt yn dëall y pethau y maent yn eu darllen yn y Bibl. Naill ai o ddiffyg ystyriaeth, neu o ddiffyg chwaeth, neu o ddiffyg profiad, y iiiae gwirioueddau y gair dwyfol yn ddam- megion ac yn dywyllwch iddynt. Maent " bob amser yn dysgu, ond heb un araser ddyfod i wybodaeth o'r gwirionedd." ÌMae rhed- iad ac ysbryd y gwirionedd yn gyffredinol yn ddyeithr iddynt ; ond y mae rhai manau yn neillduol ynghylch pa rai y mae 'r camsyn- iad mwyaf, neu fe'u teílir o'r neilldu ac a'u hanghofir. Amcenir yn y papyryn hwn ahv sylw at rai o honynt : ond mor aml ydynt, fel nas gwyddis yn iawn yn mha le-.i ddechrcu Byddai yn ormod o orchwyl i ni nodi allan yr holl ranau hyny o'r ysgrythyr na ddëallir yn briodoi gan broffeswyr crefydd yn gyffredinol ; am hyny, nis gallwn osod ond ychydig o'r llawer o flaen y darllenydd, feí anghraifft o'r cwbl; ac yr ydym yn gwneyd hyny i'r dyben, a chyda gobaith o arwaen ei feddwl i wneuthur ymchwiliadau pellach drosto ei hun, a cheisio cael gwybod pa faint o lyfr Duw y mae yn ei ddeall yn. brofiadol ac ymarferol, neu nad yw. Dechreuwn gyda 'r testun canlynol. Beth meddwch chwi am dano ] " Nad ydych yn eiddoch eich hunain ; canys er gwerth y prynwyd chwi; gan hyny, gogoneddwch Dduw yn eich corff, ac yn eich ysbryd, y rhai sydd eiddo Duw :" 1 Cor. vi. 19, 20. Mae hyn yn ymddangos yn bur eglur—yn cynnwys yn amlwg dri pheth; sef, nacâd, cadarnhàd, a chasgliad neu orchymyn. "Nid ydych yn eiddoch eich hunain." Fe addefir hyn ar un- waith, gan fod yn rhaid i bawb deimlo mai creaduriaidDuwydynt, a bod ganddo hawl diymwad i wneuthur â hwy fel y byddo da yu ei olwg. Ac eto onid yw llawer—onid ydych chwi yn byw ac yn gweithredu ar y dybiaeth eich bod " yn eiddoch eich hunain," ac nid yn eiddo Duw 1 Onid y'ch chwi yn dyweyd mewn ymddygiad yn aml, "Ein gwefusau ydynt eiddom ni, pwy sydd Arglwydd arnom ni ]" Ychydig o gyfciriad at eich Crëawdwr y sydd yn holl amgylchiadau eich bywyd. Teimlad o annibyniaeth arno yw y teimíad cyffredin. Pan y dymunir pleser, yr ymgeisir am gyfbeth, yr ymgyrhaeddir at, anrhydedd a pharch, nid yw y Goruchaf byth yn d'od i mewn i'r ystyriaeth. O'u mebyd i'w bedd, mae y rhan liosocaf yn byw heb gydnabyddiaeth wirioneddol o'r Hwn y maent yn byw, yn symud, ac yn bod ynddo ! Y byd! y byd sydd yn i'hedeg â'r meddwl o ddydd i ddydd. Nid oes ynddo ddim lle i I)duw. Pa beth a yfaf ì Pa beth a fwytâf ì A pha beth yr ym- ddilladaf ] Pa fod'd yr ychwanegaf fy mawredd ? ac felly yn y blaen. Dyma 'r cwestiynau sydd yn meddiannu y meddwl i gyd. Onid yw hunan gan hyny gwedi trawsfeddiannu gorsedd Duw, a dadymchwelyd ei lywodraeth yn y galon ! ' Eto. "Ergioerth y }>rynwydchwi" "Ië," meddwch chwi, "à gwerthfawr waed Cri'st, fèl Otn difeius a difrycheulyd." Oad. tra Tachwebd, 1848.] m