Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GEINIOGWERTH. Ânnerchiad at Wr ieuanc ar ei gychwyniad gyda Chrefydd. Anwyl Gyfaill, Mae 'ri dda genyf glywed eich bod wedi cychwyn ar ol Iesu Grist, a'ch bod yn meddwì dilyn yr Oen i ba le bynag \ r elo. Ámser difyr a manteisiol i grefydda ydyw amser ieuenctid, y llýgaiu heb ballu a'r glust heb drymhau, y deall heb bylu, a'r cof heb wanychu, arfau gweithio yn eu llawn fín, a'r meddwl heb ei lwytho a'i lygru gan arferion gwaelion yr oes. Ond byddai yn dda i chwi gofio yn ne- chreu eich crefydd mai nid rhywbeth fel anadlu ydyw byw yn dduw- iol: na, mae bywyd y cristion i fod yn ymdrech caled o bcrth yr ail- eni i borth y marw. Mae pob dyn duwiol yn sicr o gael teiralo'r byd hwn yn anialwch blin ; os na chaifffyned adref yn ei gariad cyntaf. Anwyl gyfaill, mae yn briodol dyweyd wrthvch heddyw, fel y dy- wedwyd wrth Asa gynt, ::Rhyfeìoedd fydd i'th erbyn o hyn allan." Mae pob credadyn fel Jeremia wedi ei eni 'n ŵr ymryson—mae mynydd Duw fel mynydd Basan yn fynydd cribog fel mynydd Basan. Rhaid dal gafael traed a dwylaw rhag syrthio i byllau y cnawd. Mae yn anmhosibl cyflawni un ddyledswydd grefyddol heb egni ac ymdrech mawr, mae llawer o bridd ar y sylfaen, rhaid cloddio a myned yn ddwfn cyn cael gafael arni. I ba le bynag y bydd rhagluniaeth yn eich arwain, cofiwch adael i biwb wybod eich bod yn ddysgybl i Iesu Grist. Mae rhywbeth yn y cristion yn debyg iawn i'r sovereign, mae hono yn cael ei thoddi i'r fold yn Llundain, ac yno y mae hi yn derbyn delw Victoria ; ac efaliai y daw hi o law i law o Lundain i Gymru, ac y caifF ei throssìwyddo o Gymru i'r Iwerddon, ac o'r Iwerddon i Ysgotland, ac o Ysgotland i Lundain yn ei hol ; ond y mae y ddelw arni hi yn mhob lle. Mae hi wedi bod mewn llawer tŷ diweddi, ac yn mhwrs llawer cybydd ; ond ni fedrodd ewinedd neb grafu y ddelw i ffordd. Gobeithio y cewch chwithau gymhorth i fyned trwy bob adwy heb golli eich crefydd. Fe welwyd un yn cychwyn yn lled obeithiol ar ol Iesu Grist; ond rliywfodd aeth eu diwedd yn waeth na'u dechreuad. 0 ! pa sawl bachgen a lodes sydd wedi rhoi anair i'r wlad dda ; ac erbyn heddyw wedi eu claddu yn Cibrath Ilataafah. 0 mae yn hawdd iawn rhoi cam allan o dỳ yr Arglwydd; ond anhawdd ydyw dyfod yn ol. Gweddiwch lawer am gael byw a marw yn ngwasanaeth eich Har- glwydd. Yr oeddwn yn meddwl rhoi dau gynghor i chwi cyn üybenu:—• 1. Cofiwch beidio dilyn cyfeillion drwg, Byddaf yn meddwl nad oes dim yn fwy efteithiol i galedu y galon a serio y gydwybod, nag ydyw cànlyn cyfeillion drygionus. Mae llawer bachgen wedi cyf- addef ar wely angeu, ac ar y trap door yn ymyl y crogbren, mai dilyn rhyw gyfaill annuwiol oedd y ,cam cyntaf yn ei yrfa annedwydd. Yr ydwyf yn cofio i mi ddarllen am ddau gyfaill annuwiol wedi myned i edrych am Ambrose, pan oedd ar ei wely angeu, ac yr oedd y ddau wedi synu gweled yr hen gristion yn Rhagfyb, 1843.]