Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

«RlSAIi Y BEDYDDWYB. Rhif. 109.] IONAWR, 1836. [Cyf. X. PREGETH. EX0DUS xxxv. 21.—A phobun yr hwny cynhyrfodd ei galon ef, aphob un yr hwn y gwnaeth ei ysbryd efyn ewyllysgar, a ddaethant, ac a ddygasant offrwm i'r Arglwydd, tuagat waith pabell y cyfarfod, a thuagat ei holl wasanaeth hi, a thuagat y gwisgoedd santaidd. TlTR holl Ysgrythyr sydd wedi ei roddi gan ysbrydoliaeth Duw, ac sydd fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder; a'r amcan yw, fel y byddo dyn Duw yn berffaitli,wedi ei berffeithio i bob gweithred dda. Y mae yn y gyfrol santaidd athraw- iaethau idd eu credu, gorchymynion idd euhufuddhau, addewidion i'n diddauu, ac esiamplau idd en hefelychu. Y mae esiampl i bob gweithred wedi eu rhoddi o'n blaen yn y gyfrol ysbrydoledig: awn at Âbraham am ffydd, at Job am amyn- edd, &c.; ac edrychwn i ein testun am esiamplau o sêl, diwydrwydd, a chyd- weithrediad. Cawn yma ddarluniad o bobl Israel yn adeiladu tabernacl yn yr anialwch, yn ol gorchymyn a chyfarwydd- yd Duw i Moses; gwel pen. 25 o'r llyfr hwn. Yr wyf wedi gwneuthur dethol- iad c'r testun hwn oddiaryr ystyriaeth o'r gofyniad sydd arnom ni yn awr i efel- y<"hu Israel yn eu sêl, diwydrwydd, a'u cydweithrediad yn adeiladu ytabernacl, er tata y ddyled arosedig ar dabernadan Duw yn eich cymmydogaethau. A phe buasai yr un sêl, &c, wedi eio medd- 'annu ni er ys amser yn ol ag oedd yn meddiannn Israel, bnasai y baich wedi ei «ymud; ondfely mae yr hen ddiareb, "Gwell htoyr nâ hwyrach." *• Cydmharwn eo cyfundraeth hwy â'r eiddom ni. II. Eu hymdrechion à'r eiddom ni. III. Eu rhwymedigaeth â'r eiddom ni. Cyf. X. I. Cydtnharwn eu cyfundraeth hwy â'r eiddom ni. Eu llafur hwy oedd adeiladu Tabernacl i Dduw, yn ol ei orchymyn a'i gyfarwyddyd i Moses, a Moses iddynt hwythau. Ond yr oeddent hwy yn cyd- ymdrechu i adeiladu Tabernacl ag oedd i gynnal crefydd, 1, Dywyllaidd o ran ei natur, a hyny i raddau pell pan gydmharir hi â'r oruch- wyliaeth efengylaidd. Goruchwyliaeth y lleuad oedd yr eiddynt hwy, ond y mae yr haul wedi cyfodi arnom ni;—dysgu yr egwyddor oeddent hwy, ond y mae yn hawdd darllen genym nij—cysgod daionus bethau i ddyfod oedd ganddynt hwy, ond y mae y daionus bethau eu hunain genym ni. 2. Yr oedd eu crefydd hwy yn gyf- yngol o ran ei helaethder. Pan oedd- ent hwy yn adeiladu y tabernacl nid oedd ond at wasanaeth oddeutn miliwn a han- ner o drigolion. Nid oedd holl dir Pa- lestina ond^oddeutu 200 o filltiroedd ohyd, a 90 o led ; pob tir arall oedd yn cael ei ystyried yn halogedig, a'r trigolton, sef y cenedloedd, yn cael eu hystyried yn gŵn. Ond y mae crefydd Crist wedi ei hamcann i'r holl fyd, yn ol gorchymyn Crist idd ei Aposfolion, "Ewck i'r hollfyd," &c. Ac y mae yr efengyl yn cael ei danfon yn awr i leoedd na wyddent yr Apostolion ddim am danynt. Ni wyddai Augnstus Cesar, pan roddodd orchymyn i drethu yr holl fyd am lawer o'r byd adna- byddus yn awr; ac ni wyddai Alexander,