Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

OHEAIi Y BEDWlìWYR. Rhif. 112.] EBRILL, 1836. Cyf. X. COFIANT Y PARCH. DANIEL WILLIAMS, SALEM, LLANGYFELACH, MORGANWG. A R ddymnniad gweddw a chyfeillion fy hybarch gyfaill, y diweddar Daniel Williams, yr wyf ar gynnyg byr gofiant o hotio idd ei frodyr a'i gydnabod drwy y Dŷwysogaeth; a gwnaf hyny yn lled barodol, o herwydd y parch sydd genyf idd ei goffadwriaeth, a bod can- noedd drwy Gymmru yn cyd-ymdeiralo â mi yn y parch hwn. Nid oes genyf ffeithiau hynodion i fynegu yn ei gylch, eanys dilynodd lwybr tawel bywyd yn llonydd a llariaidd, heb orymgais ond i wasanaethu yr Hwn a'i gwnaeth, ac i garu ei gymmydog fel efe ei hun. Nid oes genyf waith son am ei weithiau aw- durol, nac am un ran a gymmeres mewn amgylchiadau cyffrous a nodedig; eithr gallaf gyfeirio at bethau cann mil gwerthfawrocach a phwysicach,—gonest- 'wydd a phurdeb ei egwyddor, a sant- eiddrwydd ei fuchedd. Ond i roddi yr %n a feddaf o'i hanes. Mab ydoedd i Ifan Williams, un o feibion y Gnrhyd, yn mhlwyf Llangyfel- ach, yr hwn oedd gefnder i'r Parch. William Evaus, o Gwmllynfell; ac yn briod ag un o ferched y Beeting, o'r un tylwyth a'r Parch. Roger Howells, o Baran. Ganed D. Williams yn yr Hewl- ddu, yn Llangug; a bu ei dad, yr hwn oedd yn ffennwr a saer maen, farw pan nad oedd ei fab hwn ond pedair blwydd 0ed 5 a thrwy i'r lease, wrth yr hon y nelid y tyddyn, fyned allan, gorfu ar y fara symud i'r Bwllfaddu, yn yr un plwvf. Cyf. X. Oblegid iselder amgylchiadau y teulu bryd hyn ni chafodd Daniel nemawr o dclysg. Oblegid rhyw rheswm, anwy- bod i ni yn awr, gwrthododd gelfyddycl yii ei fachgendod, gan ddewis yn hytrach wrteithio tir yn awr gyda ei fam, bryd arall mewn gwasanaeth. Nid oes genyni ar gof a chadw ddim o barthed ei arfer- ion ieuangaidd gyda golwg ar grefydd, ond yn unig yr arferai wrando yr ef- engyl yn Salem, ac oddiamgylch yno. Gan nad trwy bagamrau neillduol y dyg- wyd ef i'r penderfyniad, na pha foddion a fuant yn fendithiol i hyny, daeth allan, panynghylch 26 oed, o gyfeillach ac ym- arweddiad yr annuwiol, a chymmerodd arno yr Arglwydd Iesu Grist drwy fed- ydd, ar broffes o edifeirwch a ffydd, a derbyniwyd ef yn aelod yn Salem. Yn fuan wedi hyn priododd â'i weddw bre- sennol, Sian, merch James Mathias, s«er melinan, brodor o ardal Llangloffan, Dyfed, yr hwn a ddaethai, gyda Hawer o grefftwyr eraill, i weithio i waith glo Pwll-y-llygod. Cafodd D. Williams yn y ferchhon ymgeledd cymmhwys iddo ; bu yn gysur ac yn. gymhorth iddo trwy ei fywyd yn dymmorol ac y» ysbrydol; a dwys y galara yn awr ar ol cyfaill a chydmar ei ieuengctyd. Gŵyr na ddychwel efe yn ol ati hi i ddyffryn wylofain, eithr erys yn amyneddgar a ffyddiog nes myned ato ef i'r " breswylfa lonydd," He nad oes na gofid, na galar, na phoen. 13