Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GREAL Y BEDYDDWYR, Uhif. 2.] CHWEFROR, 1827. [Cyp. I. i "PARHAED BRAWDGARWCH" ---.. ■ ■ . . .. ii ■■ 'fm BYWGRAFFIAD Y DIWEDDAR BARCIL BENJAMINDAVIES, HWLFFORDD, SWYDD BENFRO, GANWYD Mr. B. Davie« yn Nhref Abergwaun, yn Swydd Benfro. Ëi rieni, y rhai a adwaen- ent ras Duw mewn gwirionedd, oeddynt aelodau o Eglwys y Bed- yddwyr yn Llangloffan, ac yn gwyl- ied, gydâ gofal Cristionogol, tros foesau eu plant. Gwedi ymdrechu i gyflawni eu dyledswydd, yn ny»iad eu plant i fynu yn ffyrdd cyfiawn- der, cawsant daliad digonol am eu gofal, trwy yr arwyddion amlwg i fod gallu dwyfol ras yn gweithredu ar enaid eu hanwyl Benjamin. Pan yn bymtheng mlwydd oed, rhyng- odd bodd i'r Arglwydd ei alw ef all- an o dywyllwch i ryfeddol oleuni, trwy bregeth y Parch, Maurice Jones, gweinidog presennol y Bed- yddwyr yn eglwys Ebenezer, Mer- thyr. Pa fath oedd teimladau neillduol ei feddwl, ar ddechreuad ei yrfa ysbrydol, nid yw hollol wybod- us; eithr gwedi teimlo nerth gras ail-enedigol, a chwedi cyflwyno ei hun i Dduw, yn yr ordinhad o fed- ydd) yr oedd yn dymuno gwneuthur yn hysbys i ereill yr hyn a wnaeth Duw i'w enaid. Mor fuan ag y dechreuodd ymarferyd ei ddoniau, ei sel a'i dduwioldeb anarferol a dynodd sylw yr eglwys, o'r hon yr oedd yn aelod, ac yr oedd yn rhoddi arwyddion gobeithiol iawn o'i ddef- nyddioldeb helaeth yn ngwinllan ei Arglwydd. Anfonwyd ef i Athrofa y Bedyddwyr yn Nghaerodor, dan ofal Dr. Evans. Tra bu yi;o, yr oedd y fath ddiwydrioydd, sel, a duicioldeb, ag sydd yn addurno' gweinidog gostyngedig a gweith-' gar, yn dra amlwg ynddo. Y fflam a ddechreuodd ddangos ei hun yn ardal ei enedigaeth, a borthwyd trwy ymdrechiadau dysgeidiaethol, ac a chwythwyd gan awel y nef; ti llosg- odd yn fwy cr)f a chynnyddfawr, nes denu sylw amrywiol eglwysi ag oeddynt yn amddifaid o weinidogion: a chyn iddo orphen ei amser bwriad- ol yn yr athrofa,cafodd alwadau taer- ion gan wahanol gynnulleidfaoedd i ddyfod i lafurio i'w plith. Accring- ton, yn Swydd Lancaster, yn gyntaf a fwynhaodd ffrwÿth ei lafur; a chan fod yr eglwvs yno heb un gweinid- og, (a'r lle yn ýmddangos mal maes ag eisiau gweithio ynddo,) tuedd- wyd ef i gydsynio â'u hieifyniadau ; a clrafodd ei urddo yn weinidög ár- nynt. Yn fuan ar ol hyn, priododd â Miss Mary Owen, o Dennaìd, yn