Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GREAL Y BEDYDDWYR. Rhif. 5.] MAI, 1827. [Cyf. I. PARHAED BRAWDGARWCH." COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. SIMON JAMES, Gwcinidog yr Efengyl yn Penrhyncoch a Thalybont, Ceredigion. (PARHAD O TU-DALES 108.) Mor bell ydwyf o feddwl fy rnod wedi defnyddio gormoddiaeth yn y Ilinellau blaenorol, fel yr wyfyn ys- tyricd fy hun yn ddiílygiol mewn iaitli ac amgyífredion i wneud cyf- iawnder k gwrthddrych y Coíiant; ond y mac yn dda gènyf allu ychwan- egu y rhan-lythyr canlynol, yr hwn a dderbyniais oddiwrlh fy hybarch gyf- aill, y Parch. Christmas Evans; gan ei fod ef, drwy ei ddrych-feddyliau cysefin ac hedegog, wedi tỳnu darlun mor gywir o hono a phe buasai wedi cael ei luniadu gan bwyntel (pencil) Syr Joshua Reynolds. * i* * " Mawr oedd y syndod, yr hir- acth, a'r goiid, a lanwodd fy mcddwl, drwy y newydd a roddasoch am far- wolaeth Simon James, yr hwn oedd un o'r prcgethwyr mwyaf anwyl genyf yn ein plith. Wythnos, neu naw diwrnod o'r blaen y derbyniais yr hysbysiad am farwolacth John Jones, gynto Nefyn, swydd Gaernarfon. Mae yn amlwg fod angau yn elyn mawr i'n dcdwyddwch yma, ac yn gym- mwynaswr mawr hefyd i'r duwiolion. Y mae gènyf ddyben neillduol i ysgrifenu y llythyr hwn attoch, i'ch annog, yn y modd gwresocaf, i ysgrif- cnu Cofiant S. James, fel y gallom fwyta peth môl o ysgcrbwd y llew sydd wedi tòri mcwn i gocdwig hyfryd-Ias Eden, ac yno fyth yn llechu dan y Cyf. 1. brysglwyni, yn dysgwyl am gyfle i'n hysglyíio, gan rutlir-neidio arnom, a thaflu ei grafangau am danora, a'n týnu oll yn dra buan i'w safn angeuol, ac i'n malu yn Ilwch â'i ysgythr-ddan- nedd haiarnaidd: ond fe drodd budd- ugoliaeth Calfaria a glàn y bedd newydd yn erbyn yr anghenfilanferth: nyni gawn ganu heb fod yn hir yn ei angladd yntau, Marwolacth draw yn Eden Fu'n ddychryn i ni gyd, Marwolaeth 'r Adda cyntaf A laddodd yr holl fyd ; Ond trwy farwolaeth Iesn, A'i rhinwedd mawr a'i grym, Cawn ddweyd wrth angau Eden, P'Ie niae dy golyn llym ? Marwolaeth sydd yn gỳru Marwolaeth maes o'r byd, Fe lwnc marwolaeth Iesu Y marwolaethau i gyd, Drwy íîoncM est s:iân y beddrod, Ac angau Calfari, Cawn ddweyd wrth angau Eden, P'le mae *dy golyn di ? Y mae Emyn angladdol angau wedi eí chyfansoddi, a chopi o honi wedi ei rhoddi i'r cglwys, gan Ysbryd y bro- ífwydoliaeth ; ond ar y boreu cyfododd Iesu o'r bedd newydd, argrall'wyd Emyn cynhebrwng angau yn llyfr mawr y nen, fel y gall Simon James ei darllen heddyw yn mysg holl an- themau, salmau, ac odlau ysbrydol y gân newydd. Heb fod yn hir iawn ceir clywed sain uchel-donol yr " Arch-angel gan loywlan lef, Mcluslais ncfol oslef," 1»