Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

<;iti:11, ¥ iti]i>vi>j>iv v it. Rhif. 75.] MAWRTH, 1833. [Cyf. VII. BYWYD Y DIWEDDAR BARCH. R. HALL, A. C. Cyfaddefid gan ddynion o bob enw fod y diweddar Robert Hall y pregethwr mwyaf, ymhob ystyr, a feddai Lloegr. Barnwn nad annymunol gan ein darllenwyr fydd cael peth o hanes un ag y mae y ran amlaf wedi clywed son am dano. Yn ý rhifyn hwn rhoddwn rai o am- gylchiadau boreuol ei fywyd, ac Hiewn un neu ddau arall g-yfrif mwy cyflawn'o'i gymmeriad a'i ddull fel gweinidog a phregethwr. Y mae y defnyddiau wedi eu cymmeryd o'i fywyd ag sydd newydd ei gyhoeddi gan Dr. Gregory. Ganwyd ef yn Arnsby, gerllaw Leicester, Mai 2, 1764. Y mae ei dad yn adnabyddus i'r byd Cristnog- ol fel awdwr traethawd defnyddiol ag sydd wedi ei gyfieithu i'r Gym- raeg, dan yr enw ' Cynnorthwy i ym- deithwyr Sion.' Robert oedd y ieuangaf o bedwar ar ddeg o blant; yr oedd pedair o'r rhai hyn yn ferch- ed, o ba rai y mae tair etto yn fyw. Pan yn faban, yr oedd yn dyner a gwanaidd. Nis medrai gerdded na llafaru dan ddwy flwydd oed. Clud - id ef o amgylch yn mrëichiau ei fam- maeth, yr hon a gedwid ar ei gyfrif ef yn unig, ac a gyfarwyddid i'w ddwyn yn y gwys ar ol yr aradr, ac at gor- lanau, oddiar dyb fod arogl tir new- ydd a chorlanau defaid yn feithrinol. Gerllaw tý ei dad yr oedd monwent, i'r hon weithiau y cymmerid ef. Barnai y fammaeth wrth ei ymddyg- Cyf. VII. iadau ei fod am wybod beth oedd yr ar-ysgrifenadau a'r lluniau ag oedderit ar y cerig beddau; ac oddiwrth hyn hi gymmerodd achlysur i ddysgu iddo y llythyrenau, ac wedi hyny y siliiadau a'r geiriau, ac yn y modd hyn ei alluogi i ddarllren a llafaru. Wedì dechreu medru llafaru, yr oedd yn ddibaid yn gosod gofyniadau mewn perthynas i'r naill beth a'r lla.ll» a daeth yn chwedleuwr mawr a heini. Unwaith, pan oedd o gylch tair blwydd oed, achwynodd ar ryw un am chwedleuamor heini; atebodd ei fam ei. fod ef yn chwedleua yn heini. " Na," ebe yntef, " nid wyf fi ddini ond yn dilyn wrthi."* Wedi hyn aeth i ysgol a gedwid gan hen wraig yn y pentref. Dang- osodd yn gynnar ei awydd am wybodaeth, a dechreuodd gasglu Uyfrau. Yn yr haf, ar ol oriau ysgol, elai â'i lyfrau i'r fonwent, llédai hwynt ar y glaswellt, ac arosai yno nes deuai yr hwyr i'w yru i'r tý. Wedi hyn aeth i ysgol at un Simmons, o gylch pedair milltir o Arnsby. O gylch yr amser hwn y dechreuodd deimlo y poen yn ei gefn ag a fu ýn achos o gymmaint o ddyoddefaint iddo trwy ei holl fywyd.f Ar'bryd- * I only keep at ìt. ; X t Wedi ei farwolaeth agorwyd ei gorff, a chafwyd mai achos y poen a ddyoddefai oedd careg fawr, arw, a phigop, yr hon alanwai yr aren ar yr ochrddeau. Caf'wyd amryw gerig hefyd yn mladren y bustl