Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GR£AL Y BEDYDDWY». Rhif. 84.] RHAGFYR, 1833. [Cyf. VII. CREFYDD. Mr. Golygydd, HPrwy eich caniatâd wele fi yn anturio gosod dan sylw eich darllenwyr ychydig nodiadau ar y peth pwysig a theilwng a elwir Cre- fÿdd. Os ydwyf yn iawn ddeall ys- tyr y gair hwn, Crefydd, y mae yn golygu gwaith dynion yn cydnabod perthynas ein Creawdwr â'i greadur- iaid rhesymol fel eu Llywodraethwr moesol, eu Ceidwad, a'u Barnwr, a'u cydffurfiad â'i ewyllys ef, mewn íFydd ac ymarferiad, yn ol tystiol- aeth a rheolau datguddiad dwyfol. Amlwg yw fod llawer dull a modd wedi ac yn hanfodi ymhlith trigol- ion y byd o gredu ac ymarfer yr hyn a alwant yn grefydd; ond ein penderfyniad cywir, safadwy, a diysgog ni ydyw mai y grefydd Gristnogol, neu ddilyniad Iesu Grist, mewn fìydd ac ymarferiadau, ydyw yr unig wir grefydd yn y byd. Diau yw i'r Jehofah, ar ol iddo roddi y cyhoeddiad, neu yr addewid am ym- ddangosiad Had y wraig, osod i'n rhieni cyntaf drefn i'w addoli ef; canys nid yw yn debygol mai peth a ffynhonodd yn meddwl dyn llygredig dan y cwymp oedd yr ymarieriad o aberthu, oblegid ni fedrwn ni ddeall fod dim yn gorwedd mewn rheswm dynol ag a dueddai i beri i neb o ddynolryw feddwl y gallasent ryngu bodd Duw, na thueddu y Mawrhydi dwyfol i faddeu iddynt eu pechodau trwy ladd a thywallt gwaed anifeil- CYF. VII. iaid, &c. Petli cwbl ddireswm ydyw haeru na dychymmygu na ddarfu i grefydd ar y cyntaf gael ei gosod i'w hymarfer ymhlith dynion trwy ddat- guddiad a gorchymyn dwyfol; canys y mae prif egwyddor gwir grefydd, sef cariad perffaith â'r holl galon at ein Gwneuthurwr, a charu ein cyd- greaduriaid fel ni ein hunain, yn hollol resymol, ac yn gorwedd yn naturiol ar ddyn gyda golwg ar ei ragoriaeth, o ran ei sylwedd, ei gyf- ansoddiad, a'i sefyllfa, àr yr holl iyw- iolion eraill ar y dd,aear hon. Yr unig wir a'r bywiol Dduw, Creawd- ydd, Cynnalydd, a Llywydd mawr y nefoedda'rddaear, ydyw unigwrth- ddrych gwir grefydd. Cydnabydd- iaeth i Dduw, fel y mae ei Fawrhydi dwyfol yn hanfod pob daioni, a ífÿn- non ddiyspydd pob rhinwedd, ar yr hwn yr ymddibyna pob peth am ei fodoliàeth a'i gynnaliaeth, ac yr ym- ddibyna pob creadur rhesymol am ei holl ddedwyddwch amserol a thrar gywyddol, ydyw yr ymarferiad p grefydd mewn ffydd ac ufddd-dod i'r gosodiadau dwyfol. Nid yw cre- fydd, yn y purdeb o honi, yn golygu dim ond parchu,moliannu, agogon- eddu Duw, trwy ddwyn ffrwyth lawer yn y cyflawniad o bob gweith- red dda, gyda gweddi, á diolchgar- wch am yr holl ddaioni y mae efe yn ei roddi i ni yn wastâdol, mewn mwynhad ac mewn addewidíon. Fé ddaliodd crefydd ei phurdeb a'i sym- 45