Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

UIUEJLI. Y BEDYDBWYB. Rhif. 89.] MAI, 1834. [Cyf. VIII. COFIANT Y PARCH. JOHN ROBERTS, GWEINIDOG Y BEDYDDWYR YN DDIWEDDAR YN MHWLLHELI, YN ARFON. Ystyria ysgrifenydd y Cofianthwn ei fod mewn perygl i ganmol gormod ar ei gyfaill, Mr. John Roberts, o herwydd ei gariad ato, ei gyfrif o'i lafur, a'i ymarweddiad nefol: etto, gobeithia, gan ei fod yn deall y perygl sydd yn eithaf y duedd grybwylledig, a thra y cofia mai dyben bywgraffiad yw gosod o flaen y byw ddarlun têg o fywyd yr ymadawedig, fel y galler gochelyd pethau niweidiol, a dewis pethau buddiol, megis ar draul bywyd yr hwn a fu farw, y bydd ar ei wyliad- wriaeth, fel y rhoddo, yn ol eithaf ei allu, ddarlun cywir. Teimla hefyd ofn, wrth anturio at ei orchwylhwn, oblegid prinder def- nyddiau,*aphrindermedratygwaith, na ali wneud uniondeb â'r Cofiant. Bydd rhai yn gofyn paham na bu- aswn yn ysgrifenu yr hanes hon yn gynt ? yr wyf yn ateb, mai dysgwyl i ryw un, a allasai ei gwneud yn well, gymmeryd y gorchwyl yr oeddwn. Ganwyd J. Roberts o rieni gonest a diwyd, yn nghymmydogaeth Am- lwch, yn swyddFôn, Medi 15, 1791. Pan oedd ond blwydd a thri mis oed, ymddifadwyd ef o nerth ei * Wrth ymhöli am gymhorth at y cofiant o Bwllheli, dywedwyd wrthyf iberthynas i Mr. R. losgi ei holl lyfrau ysgrifenedig pan oedd yno yn ei gladdedigaeth; oni buasai y byr- bwylldra hyn, cawsid digon o ddefnyddiau; canys yr oedd gan J. Roberts, wedi e\i hys- grifenu mewn llyfr, y pethau hynotaf o rag- luniaetb. Duw tuag ato dros ci fywyd. Cyf. VIII. glun, o'i forddwyd i'w droed; ac er arfer pob moddion ag ellid, arosodd yn fechan dros ei fywyd. Pan mae trefn yr Arglwydd yn goddef i'w greaduriaid gael eu coll- edu o un peth, yn gyffredin, gwneir y golled i fynu â rhyw beth arall: felly y bu yn amgylchiad aelod y bachgen hwn; canys ymddangosodd yn fuan wedi iddo golü grym ei glun, fod grym mwy nâ chyffredin yn ei feddwl; oblegid yr oedd, pan yn bed- air oed, yn gallu darllen yn rhagor- ol; a chyn bod yn chwech, yr oedd yn fedrus mewn cyssoni ysgrythyr ag ysgrythyrtrwy gymhorth Nodau cyf- eiriol Bibl Cann. Gan fod ei rieni yn ofalus am ei gysur dros ei fywyd, danfonasant ef yn lled ieuangc i'r ysgoì, er ei addasu i ryw sefyllfa i gael bywioliaeth oddi- wrthi. Cawsant yn fuan eu lloni wrth weled y cynnydd cyflym a wnai mewn dysgeidiaeth. Gan ei fod yn hollol anghymmwys i ddilyn unrhyw law-waith, ymdrechasantei ysgoli yn fwy nâ'r plant eraill, er ei addasu i gadw ysgol. I gael yr amcan hyn i ben, anfonasant ef at y Parch. J. Evans, gweinidog yr Annibynwyr yn Amlwch, yr hwn oedd athraw ysgol dra chyfrifol. Gwnaeth Mr. Evans bob ymdrech i wneuthur ei ysgolhaig ieuangc yn athraw medrus; arosai gydagef oriau ar ol gollwng y plant eraill ymaith, i'w gyfarwyddo mewn gwybodaethau 17