Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GREAL ¥ BE»IDBWIB. Rhif . 9* JtHAGFYR, 1Q34. [Cyf. VIII. COFIAIÍT Y DIWEDDAR TITUS JENKINS, GWEINIDOG YR EFEJÍGYL YN RAMSEY, SWYDD HUNTINGDON. PASHAD 0 DUV. 324. Y"R oedd efe, er yn ieuangc iawn, < •*• o duedd meddwl a dawn treidd- iol am sicrwydd gwybodaeth yn mha bethau bynag y gweithredai ei fy- fyrdodau amynt. Buan, wedi ym- osod at hyny, y cyrhaeddodd radd mawr o berffeithrwydd meistrolaidd yn y gelfyddyd o argraffu. Ym- ddangosodd ynddo yn gynnar iawn radd lled hëlaeth o ddawn barddonol. Cyfansoddodd awdl gysdadleuol, yn un o wyth prydydd, ar y Dydd Byraf; yr hyn a roddwyd yn destyn, ;er gwobr o ariandlws, am yr oreu, .gan. Gymdeithas Cymreigyddion a Phrydyddion JMerthyr Tydfil, yn Nghadair Alban Elfed, 1822. Barn- wyd ei awdl ef yn ail oreu o saith gan yr enwog Iolo Morganwg. Ni farnodd ef chwaneg nâ saith o'r wyth,- herwydd mai awdl ei fab, Tal- ìesin, oedd y llall. Pennodwyd beirniaid eraill i edrych y gwahan- iaeth rhwng yr oreu o'r saith hyny ag awdl T. ab Iolo, ymhlith y rhai y nodwyd T. J. fel y trydydd, os y methasaiy lleill gyduno. Nid oedd yr amser hyn ond braidd 18 oed. Y mae yr Awdl hòno o'i eiddo yn awr mewn argrafF, gyda phedair eraill ar yruntestun. Wediiddofynedì'r Ath- rofa, gan ei fod yn ieuangc a thyner, ac felly yn hiraethlon am.dý ei dad, gyrodrl ddeisyfiadau taerion ataf am ddanfon iddo fy llun; â'r hyn o'r diwe/dd ycydsyniais: ac wedi iddo cyf; viií. ei dderbyn, efe a ddefnyddiodd ei ddawn barddonol i ddarlunio ei deimlad pan ddaeth y llun i'w olwg gyntaf, yr hyn a ymddengys yn yr englyn canlynol; yr hwn a ddanfon- odd ef adref yn ei lythyr cyntaf wedi derbyn y darlun: Cufwyn hoff ddarlun gefais,—ail olwg Oleulon ddymunais; Gwyddwn, fy nhad,—a gwaeddais, O lun rho glywed dy lais! Rhoddais yr englyn uchod i mewn fel siampl fèr o'i awen farddonol yn gyssylltiedig â'r pethau eraill per- thynol i'w fuchedd. Mewn canlyn- iad i'w fynediad i'r athrofa, rhodd- odd heibio agos yn hollol yr ymar- feriad o farddoni, er nad oedd gwreichionen y dawn hwnw wedi di- ffodd ynddo hyd derfyn ei oes, fel y gwelir yn y pennillion a gyfansodd- odd er coffadwriaeth am ei ewytlir, y diweddar Daniel Jones, o Groes- penmain, y rhai awelir yn y Greal am fis Gorphenaf diweddaf: ond rhoddodd ei fryd yn awr ar gyrhaedd- yd hyny a fedraî o wybodaeth yn yr ìeithoedd dysgedig, megis y Ladin, y Roeg, a> Hebraeg. Ac nid dysg- wr arwynebol ydoedd, na pharod i lyngcu, derbyn, na chredu dim heb iddo gáel ei lwyr argyhoeddi o wir- ionedd a phriodoldeb y cyfrÿw beth. Nid oedd neb yn fwy adnabyddus â'i ymroadau myfyriol a'i alluoedd dysg- eidiol, nâ'i frawd, a'i gyfaill anwyl- aidd, y Parch, Maurice Jones, yr 45