Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DYFEISIAD TE AGEBBEIEIANT. 41 HANES DYFEISIAD AGERBEIRIANT JAMES WATT. Ye agerbeiriant yw y mwyaf pwysig o'r holl ddyfeisiau diweddar. Nid oedd nerth ager yn gwbl ddyeithr i'r hynafiaid, eto yr oedd ei ddefnyddioldeb cyffredinol yn anhysbys i'r byd hyd gyfnod bythgofiadwy dyddiau James Watt. Hero o Alexandria, yr hwn a oesai 120 o flynyddau cyn Crist, a adawodd ar ei ol ddesgrifiad o beiriant, yn yr hwn yr oedd echel, neu werthyd, yn cael ei droi yn gyson gan ager yn dyfod allan o dyllau ochrog mewn breichiau oeddynt wedi eu taclu gyferbyn ag ef. Yn 1663, desgrifiai Ardalydd enwog Caerwrangon, yn ei "Ganrif o Ddyfeisiau," offeryn i godi dwfr trwy nerth ymehwyddol ager yn unig. Dyfynwn y dernyn canlynol o hanes yr agerbeiriant cyntaf o'r gwaith uehod:— "Ffordd ragorol a thra nerthol i yru dwfr i fynu gan dân. Nid oes i'r ffordd hon yr un terfyn, o ran ei nerth, ond cael y llestr yn ddigon cryf; canys cymerais ddernyn cyfan o fagnel, yr hwn yr oedd ei ben wedi ei daro allan. Wedi cau y pen drylliedig a'r twll tanio, llenwais ef o ddwfr, a gwnaethum dân da dano, ac yn mhen pedair awr ar ugain ymdddrylliodd, gan wneuthur trwst anferthol. Ar ol i mi gael ffordd i wneuthur fy llestri yn gyfryw ag oeddynt yn cael eu cryfhau gan y nerth oedd o fewn, a'r naill i lenwi ar ol y llal), gwelais y dwfr yn ymgodi ac yn rhedeg i fynu yn ffrwd gyson ddeugain troedfedd o uchder. Un llestraid o ddwfr wedi ei deneuhau gan dân a ýr i fynu ddeugain o ddwfr oer; ac nid oes gan y dyn a fyddo yn gofalu am dano ond troi allweddau dau cocJc, fel pan fyddo un llestr o ddwfr yn darfod, y byddo un arall yn gweithio ac yn ail-lanw o ddwfr, ac felly yn olynol. Bydd gan yr un person hefyd lawn digon o amser i'w hebgor i ofalu am y tân." Yr agerbeiriant cyntaf a ddygwyd i weithrediad, ag sydd a hanes am dano, a ddyfeisiwyd gan Captain Savery, Sais, yr hwn a dderbyniodd freintysgrif yn 1698 am ager- beiriant at godi dwfr, &c. Yr oedd y peiriant hwn, yr hwn a ddefnyddiwyd am beth amser i godi dwfr o weithiau dan y ddaear, yn gynwysedig o lestr haiarn cryf, hirgrwn, ar lun ŵy, gyda phib yn disgyn o'i waelod i lawr at y dwfr oedd i'w godi, ac un arall yn y pen uchaf, ac yn ymgodi i'r fan y byddai y dwfr i gael ei Ehif. ii. * ' 6