Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ANERCHIAI). 121 ANEHCHIAD ril IEUENCTYD. Gyfeillicn hoff,—Mae a fynom â chwi yn arbenigol. Chwi ydyw y nod blaenaf o fiaen ein meddwl; er eieh mwyn chwi yn benaf yr ydym yn ysgrifenu; eich gwas- anaethu chwi ydyw hyfrydwch penaf ein bywyd. Mae eich lles amserol a thragwyddol bob amser yn agos iawn atom. Yr ydym yn gwylied eich camrau, ac yn craffu ar eich ymddygiadau. Yr ydym yn cydnabod yn ddi- olchgar lawcr o rinweddau sydd ynoch, ac yn sylwi gyda hyfrydwch ar eich ymdrechion clodus yn ffordd deall; ac yn llawenhau yn fawr yn eich llwyddiant. Qhd y mae un peth y dymunem yn fawr alw eich sylw ato. Goddef- wch i ni. gan hyny, eich cyfarch am hyn yma ar dudal- enau Yit Oenig. Mae y byd yr ydych yn byw ynddo yn llawn o demtas- ipiau, a'ch sefyllfa chwithau yn y byd yn beryglus iawn. Mae cwmni drwg a chyfeillachau llygredig, wedi ac yn andwyo llaAver o honoch. Yr ydym yn gofidio yn fawr eich gweled yn dal y fath gysylltiad â'r fasnach feddwol, yr hon sydd yn cynwys ynddi ei hun elfenau cich dinystr am y ddau íÿd. Y penaf o ffyrdd y diafol i'ch dyfetha chwi ydyw hi. Yr ydym yn mawr chwenychu tori y cysylltiad hwn, ac yn apelio at eich deall, eich rheswm, eich barn, a'ch eydwybod am hyn yma. Paham y rhoddwch eich nerth i'r hwn sydd yn dyfetha, a'ch blyn- yddoedd i'r creulon? Gwyddoch fod ei character yn ddrwg, a'i hcnw dan A\rarth. Paham gan hyny, y mae a wneloch chwi a hi? Gwyddoch nad oes ynddi ddim da yn trigo; gan hyny nis gall wneyd ditn da i neb. Edrychwch o'ch cwmpas. Pwy ydynt y dynion goreu, ci plúeidwyr hi, ynte y blaid wrthwynebol. Gadawaf i chwi farnu. Pwy ydynt y dynion callaf, doethaf, iachaf, cryfaf, a defnyddiola'f yn eich mysg, yfwyr y diodydd meddwol, ynte y rhai nad jtfant? Cymerwch drem gyffredinol o fewn cylch eich cydnabod, a rhenwch hwynt. llhoddwch yr yfwyr i gyd ar un llaw, a'r dir- westwyr i gyd ar y llaw arall; a chymerwch nodiad am y gwahaniaeth. Hwyrach y bydd yr yfwyr yn lluosocach, Rhif. iv. * * * ' 16