Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BJSCHGYN BHYFELWYB Y GBOES. 281 BECHGYN RHYFELWYR Y GROES. Tybiwn fod ein darllenwyr yn ddigon hysbys o haÉies "Rhyfeloedd y Groes,"—y rhyfeloedd hyny a wnaëd gan Babyddion Cyfandir Ewrop i ddial ar, a gyru allan o'u gwlad, breswylwyr annghristionogol ac anffyddol Palestina—fel na raid i ni yma ond cotfa i chwi eu bod yn cael eu rhanu i naw crusade gwahanol—iddynt barhau rhwng dau a thri chant o flynyddoedd, yn awr ac eilwaith; ac iddynt derfynu yn aflwyddianus o ran yr amcan mewn golwg. Er fod tuedd uniongyrchol y rhyfeloedd yma i helaethu a chadarnhau Uywudraeth y Pab, eto diamheu i ddaioni cyffredinol ddeilliaw oddiwrthynt. Buont yn foddion i roi terfyn ar y gyfundraeth wriogaethol, yr hon oedd yn atalfa ar ffordd pob llwyddiant personol a gwladol; galwasant allan alluoedd meddyliol i fwy o ym- egniad; rhoddasant oleuni newydd i'r rhyfelwyr a'r teith- wyr ar gelfyddyd, gwyddoniaeth, a masnach, a rhoddwyd ysgogiad nerthol a chyô'redinol iddynt yn y pethau hyn. Nid oes un ran o hanes y rhyfeloedd hynod hyn yn fwy tarawiadol a thrist na hanes y bechgyn dewrion, ond anffodus ydynt dan ein sylw. Yn wir y mae yn ym- ddangos yn fwy fel hudoliaeth dychymyg rhyw ffug- hanesydd nag fel ffaith wirioneddol yn nygwyddiadau dynoliaeth. Mae yn syn pa fodd y gallodd plant egwan a diniwed feddwl am, chwaithach ymgymeryd â'r fath anturiaeth, a chael cymeradwyaeth a chynorthwy llawer o ddynion mewn oed—anturiaeth ag oedd yn gofyn nerth, gwroldeb, a doethineb mawr, cyn y gallai milwyr profedig hyd y nod obeithio am lwyddiant. Ië, anturiaeth ag y collodd miloedd ar filoedd o filwyr dan arfau eu hamcan a'u bywyd. Yr ydym ni yn methu yn lân a dirnad beth allai beri i dyrfaoedd o blant diamddiffyn, wedi ymrestru yn fyddinoedd, feddwl y gallent hwy orchfygu y Saracen- iaid rhyfelgar, a dwyn oddiarnynt y wlad santaidd, fel y gallai pererinion Cristionogol ymweled â hi heb ddyoddef gorthrymder a thrais eu gelynion. Ond er mor rhyfedd ac anhygoel ydyw, y mae yn wir- ionedd, a chadarnheir ef gan yr haneswyr goreu; a rhaid 35 ' ., , m ^feu^ 'ThH)