Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CARACTEB. HEE0D. 321 CARACTER HEROD, BRENIN GALILEA. "Herod, y cadnaw hwnw."—Iestj Grist. Llwyth o greaduriaid go ganolig oedd yr Herodiaid yma, gan mwyaf. Tad yr Herod hwn, yr hwn a elwid Herod Fawr, oedd yn frenin ar Judea yr amser y ganed Crist: efe a wnaeth y galanastra ofhadwy ar blant Bethlehem. Ei fab, Herod Antipas, brenin Galilea, gwrthddrych yr ysgrif hon, a fwriodd ei wraig, merch Aretas, brenin Arabia, ymaith, ac a gymerodd Herodias gwraig Herod Philip, ei frawd, yn ei lle.' Hwn dor- odd beh Ioan Fedyddiwr; a hwn a'i fìlwyr a fuant yn gwatwar yr Iesu cyn ei farwolaeth. i Herod Agrippa, mab i frawd hwn, ac ŵyr i Herod Fawr, laddodd Iago brawd Ioan, ac a amcanodd ladd Petr, yr hwn a dar- awyd wedi hyny gan angel yr Arglwydd am ei falchder; "A chanbryfed yn ysu, efe a drengodd." Nid yw yr ysgrythyrau yn rhoddi hanes' bywyd un o'r rhai hyn yn fanwl; ond rhoddant lawn ddigon o hanes Herod Antipas, yr hwn oedd yn llywodraethu ar Galilea dros ddyddiau gweinidogaeth Ioan a Christ, i'n galluogi i ddeall pa fath un ydoedd. Gwelwn yn amlwg,— I. FoD YNDDO EYW DUEDD GEEFYDDOL. Yr oedd gan Herod feddwl uchel am Ioan a Christ. Dywedir " ei fod yn ofni Ioan oblegid ei fod yn wr cyfiawn, ac yn santaidd; ac a'i parchai ef; ac wedi iddo ei glywed ef, efe a wnai lawer o bethau, ac a'i gwran- dawai ef yn ewyllysgar." Yn wir, gellir meddwl wrth yr adnod hon ei fod, i gryn raddau, dan ddylanwad crefydd. Dywedir am dano hefyd ei íbd yn chwenychu gweled Crist, a'i fod yn llawen pan ddyg^vyd ef ger ei fron i'w brofi, oblegid ei fod yn gobeithio cael gweled cyflawnu rhyw wyrth ganddo. Felly gallwn gasglu fod gan Herod barch i gi-efydd a'i gweinidogion; 'ie, gwnai "lawer o bethau" i Ioan; derbyniai ef i'w balas, a dangosai ei hun fel cyfaill iddo. Ond pan gyflyrddodd Ioan a'i bechod, pan roddodd ei fys ar ei fai, ar ei chwant pechadurus, pan feiddiodd 38 ÌA ÍHiCuuj.i^)