Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

HYNT Y MEDDWTN. 441 HYNT Y MEDDWYN. Gwnaeth darllen nodiadau yn y gwahanol Gyhoedd- iadau ar fywyd a marwolaeth y diweddar a'r clodfawr fardd, Ieuan Glan Geirionydd, i ni ail ddarllen y Uyfryn bychan a gyhoeddodd yn ddiweddar ar "Hynt y Meddwyn." Cawsom lawn cymaint o bleser wrth hyny a'r tro cyntaf y darllenasom ef; a chan y tybiwn fod canoedd o ddarllenwyr yr Oenig heb ei weled, a bod ei destun bellach wedi dyfod yn bwnc y dydd, y mae yn hyfrydwch genym gael cyfleusdra i alw sylw ein darllenwyr ato, ac i roi ychydig ddysgleidiau o hono ger eu bron. Yr oedd gwr ieuanc cyfrifol, o godiad da, o gymer- iad uchel, ac o duedd grefyddol, yn byw mewn cym- ydogaeth yn Nghymru; enw y gwr oedd John. Priod- odd ferch ieuanc o gyffelyb garacter, o'r enw Jane. Yr oedd eu priodas yn un o'r rhai mwyaf hapus a gobeithiol; yr oedd y pâr ieuanc yn byw mor dded- wydd ag angylion, ac yn ddigon i beri i un dyn eiddig- eddu wrth eu hapusrwydd a'u mwynhad. Yr oedd y naill a'r llall yn ddiwyd, eu hamgylchiadau yn hynod gysurus, ac yr oeddynt yn llwyddo yn y byd. Ganwyd iddynt ddau o blant, y rhai a ychwanegent fyth at gysuron a dedwyddwch y teulu. % "Ni welwyd dau mwy dedwydd erioed yn dechreu byw; Rhagluniaeth arnynt wenai heb gwmwl o un rhyw; Eu coelbren oedd heb gamni, a'u cyfran oedd heb groes, Heb ysgall na mieri i roddi iddynt loes." Yr oedd John yn ddirwestwr selog, ac yr oedd Jane yn ei garu yn fwy oblegid hyny, waith byddai hi yn cael mwynhau ei gwmni yn wastad; ac nid oedd teimlad hapusach iddi nag edrych ar John yn eistedd gyferbyn â hi ar yr aelwyd. Ryw dro cafodd John gymhelliad i ymuno â chlwb a gedwid mewn tafarn o'r enw "Arwydd y Goron." Wedi ymddyddan â Jane, barn- wyd yn well iddo ymuno, ac felly y bu. Ar ŵyl flyn- yddol y clwb, cyfarfyddodd ein gwron â phrofedigaeth. Yr oedd yr hoU aelodau a'u glaseidiau cwrw o'u blaen 37