Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GOLüD YR OES: CYECHGHAWH CEHEGLAETHÖE. Enre. 7.] MAWRTH, 1863. [Ctf. I. YR ARGLWYDDES ELEAXOR BÜTLER A MISS PONSONBY, 0 LANGOLLEN. ÍÍid oes braidd neb, sydd yn gwybod rhywbeth am Ogledd Gymru, nad yw wedi clywed son am " Fon- eddigesau Llangollen," sef yr Arglwyddes Eleanor Butler, a'i chyfeilles Miss Ponsonby, y rhai, oddeutu deng mlynedd ar hugain yn ol, a breswylient yn y Plas newydd, yn Nyffryn Llangollen. Oddeutu y fiwyddyn 1788, y boneddigesau hyn, yn cael eu cymhell gan awydd i arwain bywyd ym- neillduedig* o wyryfdod, a giliasant o'r cylchoedd boneddigaidd yr oeddynt yn troi ynddynt; ac yn eu hymchwiliad am le cyfaddas i dreulio eu dyddiau mewn cyfeillgarwch yraroddgar y naill i'r llall, ac mewn gweithredoedd o garedigrwydd i'w cymydog- ion, a ymwelsant à Llangollen. Ẅrth grwydro hyd yr ardal brydferth hon, un prydnawn hafaidd, pan oedd prydferthwch tawel y dyffryn yn cael ei oleuo gan belydrau llariaidd y lloer, disgynai eu llygaid ar dŷ bychan a safai ar uchelfan gerllaw y pentref; ac yno y penderfynasant sefydlu eu preswylfod. Pryn- asant y tir, ac adeiladasant balasdy bychan yn lle y bwthyn a safai yno yn fiaenorol, a thréfnasant erddi a rhodfeydd prydferth, planigfeydd hyfryd a phottt- ydd gwledig—yn fyr, pobpeth a dueddai i wneyd y lle yn gyfryw y gallent gael ynddo lawn fwynhad o natur yn ei phrydferthwch cynhenid, a threulio en dyddiau inewn llonyddwch yn y cyflawniad o'u dyl- edswyddau i Dduw a dynion, heb un afionyddwch oddiwrth y byd a'i drafferthion. Yr oedd yr Arglwyddes Eleanor Butler yn ferch i'r unfed ar bymtheg Iarll Ormonde ac Ossory, yn Iwerddon, ac yn chwaer i'r eilfed Iarll ar bymtheg. Yr oedd Miss Ponsonby hefyd yn ferch ieuangc o deulu anrhydeddus; ac yr oedd y ddwy, yn eu dyddiau boreuaf, wedi ffurfio y fath gyfeillgarwch, fel nas gallent goleddu am foment y drychfeddwl poenus o gael eu gwahanu oddiwrth eu gilydd trwy briodaí y naill neu y llall. Dywedir fod yr Ar- glwyddes Eleanor wedi gwrthod pum' cynyg i briodi; a chan y tybid gan ei pherthynasau mai ei chyfeilles Miss Ponsonby oedd y prif rwystr ar y ffordd, pen- derfynasant wahanu y ddwy oddiwrth eu gilydd, ac felly cadwyd yr Arglwyddes ieuangc o fewn cyffiniau y palas. Ond rywfodd neu gilydd, Uwydd- odd y ddwy i ddiangc ymaith, eithr daliwyd hwy yn fuan, a dygwyd hwy yn eu holau at eu perthynasau. Rhoddwyd amryw gynygion eilwaith ar gael gan yr Arglwyddes Butler briodi; ond yn gwbl ofer; a chyu