Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GOLUD YR OES: (Jlgl([It|îpicit d^ttdlaçthol. Rhif. 26.] HYDREF, 1864. [Ctf. II. BRWYDR HASTINGS—LLADD HAR0LD FRENIÎí (OWEL TUDAL GORESGYNIAD LLOEGR GAN Y NOR- MANIUD. Y mae dyfodiad y Normaniaid i Frydain yn dal cy- sylltiad agos à hanes eenedl y Cymry, yn enwedig yn y Deheubartb, fel y gwelir oddiwrth y mynych gry- bwylliadau a wneir at hyny, yn "Hanes Llancarfan," " Castell y Coity," ac amryw erthyglau ereill a ym- ddangosasant o dro i dro yn " Ngolud yr Oes ;" am hyny tybiasom mai dyddorol gan ein darllenwyr fyddai cael hanes cyflawn am y dygwyddiad pwysig hwnw, a ffurfiodd fath o gyfnod newydd yn htóés- iaeth yr ynys, ao a ddisodlodd y Uinach Sacsonaidd oddiar yr orsedd, er rhoddi lle i'r un Normanaidd. Harold yr Ail, mab Iarll Goodwin, ydoedd yr olaf 0 r penaduriaid Saesonaidd. Efe a esgynodd i'r or- sedd yn 1065, a theyrnasodd naw mis a naw niwrnod. Dywedir mai brenin doeth a rhinweddol ydoedd; ei fod wedi peri lleihau y trethi ar y deiliaid, ao achosi 1 gyfiawnder gael ei weinyddu yn ddidderbyn wyneb. Eithr yr oedd y duo Normandy, tr*y ei fod yn ^ysgwyl am y goron ar farwolaeth y diweddar frenin Edward—wedi cael ei anog i hyny trwy addewidy penadur hwnw, ond yn cael ei symbylu yn fwy gan cyf. ii,] ei uchelgais ei hun, mae'n deb/g—yn teimlo yn dra digofus o herwydd fod Harold, yn groes i'w lw, wedi gosod ei hun i fyny yn frenin. Ond yr aflwydd cyntaf a gyfarfyddodd Harold ydoedd oddiwrth ei frawd ei hun, Tostyn, yr hwn a amcanai ei ddior- seddu, ao a gynorthwyid yn hyny gan Iarll Ffland- rys, a gwnaethant gryn ddifrod cydrbyngddynt ar fôr-gyfiîniau y wlad. Pa fodd bynag, anfonwyd byddin yn ei erbyn, a gorfodwyd ef i encilio i'w longau, a hwylio tua Norway. Perswadiodd frenin y wlad hono, Harffagar, i ymuno âg ef, a daethant i'r afon Tyne gyda 500 o longau, lle y glaniasant, ao yr anrheithiasant y wlad, gan gymeryd Caerefrog. Daeth Harold i fyny à hwy ger pont Stamfford, dros yr afon Derwent. Yr oedd Tostyn a'r Norwegiaid yr ochr arall i'r bont, a chan fod yr afon yn ddofn a Uydan, nid oedd modd i Harold fyned atynt heb yn gyntaf gymeryd meddiant o'r bont, yr hon a amddi- ffynwyd yn wrol gan y Norwegiaid, a dywedir i un dyn o honynt ei chadw am beth amser yn erbyn holl allu milwrol Lloegr; ond o'r diwedd efe a laddwyd, eithr nid cyn iddo, yn ol yr hanes, ladd 40 o'r Saoson- iaid a'i law ei hun, a daeth y bont i feddiant Harold, 2k