Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GOLUD YB, OES: Rhif. 27.] TACHWEDD, 1864. [Cn. II. BRWTDfi AGINC0T7RT. (OWEL TT/DAL. 330.) HARRI V., BRENIN LLOEGR, A'I RYFEL- OEDD YN FFRAINGC. EsorNODD Harri V., yr hwn a gyfenwid Harri o Fynwy, i orsedd Lloegr, ar farwolaeth ei dad, Harri IV.; cyhoeddwyd ef Mawrth 20ed, 1413, a choron- wyd ef Ebrill 9ed yn yr un flwyddyn, efe y pryd hyny oddeutu 22 mlwydd oed. Yn ystod teyrnasiad ei dad, yr oedd wedi arwain bywyd lled wylit, gan ddylya cyfeillion ofer; mewn canlyniadi hynbyddai yn fynych mewn rhyw ysgarraesau neu gilydd, ac un tro dygwyd ef o flaen yr uchelfarnydd Gascoigne, lle yr yohwanegodd at ei drosedd blaenorol trwy ddir- mygu gorsedd barn, am yr hyn yr anfonodd yr hen ustus ef i garchar. 0 herwydd yr amgylchiadau yma, yr oedd y deyrnas yn edrych ar esgyniad Harri 1 r orsedd gyda braw; ond efe a'u siomodd yn yr ochr oreu. Y peth cyntaf a wnaeth, ar ol ei goroni, oedd anfon am ei hen gyfeillion, ao anogodd hwy yn dra difrifol i adael eu fíyrdd drygionus, raegys yr oedd efe wedi penderfynu gwneyd; yna rhoddodd anrheg- ìon iddynt, a gorohymynodd iddynt, dsn boen myned dan ei anfoddlonrwydd ef, i beidio byth a thywyllu drysau ei lys. Yna dewisodd gynghor o'r rhai penaf CTF. II.] a galluocaf o'i ddeiliaid; trôdd o'u swyddi y rhai oeddynt wedi xsamarfer eu hawdurdod, a chadarnha- odd y rhai teilwng, yn enwedig y prif-farnydd Gas- coigne, yr hwn a'i traddodasai ef am ddirmygu llys barn, pan ýn Dywysog Cymru, a llanwodd leoedd y rhai a ddiswyddasai gyda dynion teilwng. Grwnaeth. yr un peth hefyd gyda golwg ar ynadon israddol. Y blotyn duaf ar ei gymeriad ydyw ei fod wedi erlid y "W"ìckliffi.aid, neu y Lolardiaid; ond ynoedd hyn i'w briodoli yn fwy i ofergoeledd yr amseroedd nag i'w dymher naturiol ef ei hun, gan ei fod yn fynych wedi arwyddo ei anewyllysgarwch i wneyd hyny. Syr John Oldcastle, barnwr Cobham, yr hwn a edrychid arno fel prif amddiflynwr y Lolardiaid, oedd y oyntaf o'r bendefigaeth a ddyoddefodd yn yr achos hwn. Yn fuan wedi i Harri esgyn i'r orsedd, efe a ben- derfynodd wneyd cais i adenill y meddianau a gollasid yn Ffraingc er amser teyrnasiad Iorwerth III.; yn enwedig gan fod ymraniadau pwysig ar y pryd yn y deyrnas hono. Cymerodd Harri fantais ar byny; ac anfonodd genadon drosodd i hawlio Normandy, &o., a'r holl leoedd a roddasid i fyny i Ffraingc er amser y cytundeb âg Iorwerth III., yr hwn a law-nodasid 2r